Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr
Rydym yn credu bod gan bobl y gallu hynod i oresgyn rhwystrau anfantais os ydynt yn derbyn y gefnogaeth a’r cyfl eoedd iawn. Felly, rydym yn canolbwyntio ar gefnogi elusennau sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n wynebu anfanteision lluosog i symud eu bywydau ymlaen. Drwy ddarparu cefnogaeth ariannol ac ymarferol, rydym yn anelu i gyfl awni newid cadarnhaol parhaol.
Bydd ein rhaglenni - Buddsoddi, Galluogi a Gwella - yn helpu elusennau i chwalu neu atal cylchoedd o anfantais. Rydym yn datblygu a hyrwyddo datrysiadau ymarferol i alluogi dyfodol cynaliadwy i elusennau - mae hyn yn bosib o ganlyniad i’n cytundeb hir dymor â Grwˆ p Bancio Lloyds - ac i bobl ddifreintiedig sicrhau newid parhaol a chadarnhaol yn eu bywydau.
Pwy all wneud cais am grant?
Elusennau bach a chanolig (sydd ag incwm sydd rhwng £25,000 ac £1 miliwn) sydd wedi ymrwymo i gyfl enwi gwaith sy’n chwalu neu sy’n atal cylchoedd o anfantais ar gyfnodau pontio ym mywydau pobl.
Sut i ymgeisio
Gall ymgeiswyr ymgeisio am ein grantiau trwy ein gwefan www.lloydsbankfoundation.org.uk neu drwy ffonio 0870 411 1223.
Canllawiau cymhwysedd
Bydd hyn yn helpu elusennau i benderfynu a ydych chi’n gymwys i dderbyn grant a bydd yn arbed amser i chi os nad ydych chi’n gymwys. Byddem yn annog pob ymgeisydd i dreulio amser yn dysgu am ein rhaglenni grant ac i ddarllen y canllawiau cymhwysedd ar ein gwefan www.lloydsbankfoundation.org.uk/how-to-apply/eligibility-checklist.
Ymgeisio ac asesu
Bydd un o’n Rheolwyr Grantiau yn trefnu i ymweld â chi i drafod eich cais ac, os yn briodol, bydd yn eich gwahodd i gwblhau cais llawn ar-lein. Caiff y cais hwn ei asesu gan Reolwr Grantiau a’i ystyried gan ein Panel Grantiau a fydd yn penderfynu a fydd y grant yn cael ei ddyfarnu ai peidio.
Beth yw lefel y Grant sydd ar gael?
Mae Sefydliad Banc Lloyds yn derbyn cyllid parhaus a chynaliadwy gan Grwp Bancio Lloyds. Mae’r Grwp yn parhau i annog a chefnogi ein gwaith o ran helpu’r rhai sydd o dan yr anfantais fwyaf. Byddwn yn ariannu elusennau neu fudiadau elusennol corfforedig sydd wedi’u cofrestru â’r Comisiwn Elusennau ac sydd ag o leiaf un fl wyddyn o gyfrifon cyhoeddedig ar gyfer cyfnod o 12 mis.
Rydym yn cynnig dyfarniadau grantiau yblyg ac ymatebol trwy gyfl enwi’r rhaglenni canlynol:
Buddsoddi
Rydym yn ariannu costau sefydliadol ‘craidd’ sydd yn gysylltiedig â chostau rhedeg eich elusen o ddydd i ddydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyfl ogau, rhent, cyfl eustodau, yswiriant, Technoleg Gwybodaeth a defnyddiau traul. Rydym hefyd yn ariannu costau sydd wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â darpariaeth eich gwaith. Gall ymgeiswyr sy’n ymgeisio am y rhaglen Buddsoddi ofyn am rhwng £10,000 a £25,000 y fl wyddyn am rhwng dwy a chwe blynedd.
Galluogi
Gall y rhaglen Galluogi ariannu amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â datblygu a gwella gallu eich sefydliad, e.e. datblygiadau a chynlluniau busnes a gwasanaeth; datblygu systemau monitro; ymchwilio cydsoddiadau, partneriaethau, rhannu gwasanaethau, amrywio contractau; cefnogaeth gan ymgynghoriaethau; safonau ansawdd; datblygu llifoedd incwm newydd a menter. Mae grantiau Galluogi am hyd at £15,000 dros ddwy fl ynedd. Dyfernir grantiau i elusennau sy’n cyrraedd yr un meini prawf sylfaenol â’r rhaglen Buddsoddi ond sydd hefyd wedi adnabod meysydd clir i ddatblygu a fydd yn cefnogi eu twf.
Gwella
Mae rhaglen Gwella yn rhaglen ‘grantiau plus’, sy’n darparu cymorth sydd ddim yn ariannol i elusennau. Os dyfernir grant Buddsoddi neu Galluogi i elusen, bydd y Sefydliad yn gweithio gyda nhw i adnabod os byddent yn cael budd o gefnogaeth ychwanegol i gyd-fynd â’r cyllid grant. Nid yw cefnogaeth Gwella yn amod o unrhyw ddyfarniad grant ac os cytunir iddo bydd yn cael ei deilwra i anghenion penodol yr elusen.
Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?
Mae’r Sefydliad yn gweithredu tair rownd grantiau pob blwyddyn. Mae proses gais dau gam, ac os byddech yn llwyddiannus yn eich cais cychwynnol fe’ch gwahoddir i gyfl wyno cais llawn.
Os hoffech chi siarad neu gyfathrebu ag aelod o staff, cysylltwch â’n swyddfa yng nghanol Llundain:
- Ffôn: 0870 411 1223 Ffacs: 0870 411 1224
- Ffôn (trwy TypeTalk): 18001 0870 411 1223
- E-bost: enquiries@lloydsbankfoundation.org.uk
- Cyfeiriad: Pentagon House, 52-54 Southwark Street, London SE1 1UN
Os ydych yn dymuno, byddai modd i’r Rheolwr Datblygu’r Trydydd Sector CMGG eich cynorthwyo chi wrth lenwi’r ffurfl en gais am grant. Cysylltwch â Gina Jones ar 01633 241550 neu anfonwch e-bost at gina.jones@gavowales.org.uk.