Cronfa Grantiau i'r Sector Gwirfoddol

Mae'r cynllun grantiau hwn yn cynnig grantiau bach iawn i sefydliadau cymunedol/yn y sector gwirfoddol, ac maen nhw'n gyfraniad tuag at gostau rhedeg y sefydliad. Nid oes meini prawf ffurfiol ar gyfer y grant; yn lle hynny, mae grantiau'n cael eu dyrannu yn unol â set o ‘feini prawf cyffredinol’.

Cymorth i Unigolion: Mae'r grant hwn er mwyn rhoi cymorth i unigolion sy'n cynrychioli'r Fwrdeistref Sirol neu Gymru ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, yn y flwyddyn ariannol berthnasol.

Pwy sydd â'r hawl i wneud cais?

Sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau elusennol – mae'r rhain yn sefydliadau sydd â dogfen lywodraethu (fel cyfansoddiad) ac yn chwilio am grant bach i gefnogi eu gweithgareddau.

Unigolion sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth i unigolion.

Sut i wneud cais

I wneud cais am arian, mae angen i chi lenwi ffurflen gais rydych chi'n gallu ei lawrlwytho isod (unigol neu sefydliad), neu cysylltwch â'r Tîm Polisi a Phartneriaethau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

Ffôn: 01443 866391 
E-bost: GrantiauCymunedol@caerffili.gov.uk

Faint o grant sydd ar gael?

Mae'r grantiau gwerth hyd at £400, ond, yn gyffredinol, maen nhw'n llai na'r swm hwn. Mae rhestr o'r ‘meini prawf cyffredinol’ ar gyfer dyfarniadau ar gael, isod.

Categori

Meini Prawf

Gwerth (£)

A

Cymdeithas sydd yn berchen ar adeilad ei hun

372

B

Cymdeithas sydd ddim yn berchen ar adeilad ei hun

207

C

Clwb chwaraeon (hyd at 50 aelod)

207

D

Clwb chwaraeon (dros 50 aelod)

310

E

Grwpiau aelodaeth e.e Clybiau Bechgyn a Merched, YMCA, Sgowtiaid, Brownis, Rainbows, St John’s Ambulance (hyd at 50 aelod)

207

F

Grwpiau aelodaeth e.e Clybiau Bechgyn a Merched, YMCA, Sgowtiaid, Brownis, Rainbows, St John’s Ambulance (dros 50 aelod)

310

G

Bandiau pres ac arian

496

H

Grwpiau celfyddydau e.e bandiau jazz, corau, cymdeithasau celfyddydau, clwbiau ysgrifennu, grwpiau theatr

207

I

Grwpiau amgylchedd e.e lleiniau, grwpiau gwenwynwyr, clwbiau garddio, cymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr, clwbiau colomennod

207

J

Grwpiau cymunedol eraill

207

K

Unigolion (amatur) sy’n cynrychioli Cymru yn y DU

207

L

Unigolion (amatur) sy’n cynrychioli Cymru tu allan o’r DU

310

M

Unigolion (amatur) sy’n cynrychioli Cymorthdal ‘top-up’ Cymru

103

Pa mor aml mae ceisiadau yn cael eu hystyried?

Mae modd cyflwyno cais ar unrhyw adeg, ac mae ceisiadau'n cael eu hasesu'n fisol.