Mae Guto King Design yn fusnes dylunio graffeg wedi'i leoli yn Ystâd Ddiwydiannol Pontygwindy, Caerffili. Mae'r perchennog, Guto Llewellyn King, wedi gweithio yn y sector dylunio graffeg ers dros 20 mlynedd, ond ym mis Awst 2022, penderfynodd ddechrau ei fusnes ei hun ar ôl i'r cwmni roedd e'n gweithio iddo fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.