Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Gwiriwr Signal Ffonau Symudol
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Medi 2024
Dewch i ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol gyda gweithgareddau cyffrous ar draws canolfannau ham
News Centre
Dewch i ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol gyda gweithgareddau cyffrous ar draws canolfannau hamdden Bwrdeistref Sirol Caerffili
Postiwyd ar : 12 Medi 2024
I ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ddydd Mercher 18 Medi, mae Dull Byw Hamdden yn falch o gyhoeddi diwrnod llawn o weithgareddau, cynigion arbennig a digwyddiadau cymunedol yn ein safleoedd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili. Rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni am ddiwrnod o ffitrwydd a hwyl.
Gweithgareddau ar draws yr holl safleoedd:
Cynnig Aelodaeth Blynyddol i Flwyddyn 7: Ar y diwrnod arbennig hwn, rydyn ni’n cynnig aelodaeth i flwyddyn 7 am £50 yn unig. Mae'r ffi untro hon nad oes modd ei had-dalu yn rhoi gwerth arbennig i fyfyrwyr blwyddyn 7 sydd am gadw'n heini. Mae'r aelodaeth yn ddilys o 18 Medi tan ddiwedd y flwyddyn ysgol academaidd bresennol (31 Gorffennaf 2025).
Sesiynau Ystafell Ffitrwydd a Nofio Cyhoeddus am Ddim: Mwynhewch fynediad am ddim i'n holl ystafelloedd ffitrwydd a phyllau nofio trwy gydol y dydd. Mae’n gyfle perffaith i brofi ein cyfleusterau a rhoi hwb i’ch taith ffitrwydd.
Pwyntiau Bonws SWIMTAG: Bydd defnyddwyr SWIMTAG yn cael 10 pwynt teyrngarwch Dull Byw Hamdden ychwanegol pan fyddan nhw’n defnyddio eu SWIMTAG ar Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol, gan wobrwyo eu hymrwymiad i ffitrwydd.
Gweithgareddau Canolfan Hamdden Caerffili:
E-chwaraeon Cymru: Rhwng 12pm ac 8pm, bydd E-chwaraeon Cymru wedi’i sefydlu yn y dderbynfa, gan ymgysylltu ag ymwelwyr drwy gemau a gweithgareddau i ddathlu eu haelodaeth gorfforaethol newydd â ni.
Gwiriadau Iechyd a Heriau Ffitrwydd am Ddim: Mwynhewch wiriadau iechyd am ddim a chymryd rhan mewn heriau ffitrwydd o 12pm i 8pm. Bydd gwobrau’n cael eu rhoi i'r perfformwyr gorau, gan ychwanegu haen ychwanegol o gyffro i'r diwrnod. Peidiwch â cholli'ch cyfle i ennill gwobrau gwych wrth brofi eich sgiliau ffitrwydd!
Seremoni Gydnabyddiaeth: O 6pm tan 7pm, byddwn ni’n anrhydeddu 57 o aelodau sydd wedi bod yn aelodau debyd uniongyrchol am 10 mlynedd yn olynol. Byddan nhw’n cael crys-T coffaol a thaleb ar gyfer sesiwn hyfforddiant personol am ddim.
Mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yn gyfle i gofleidio ymarfer corf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau sy'n darparu ar gyfer pob diddordeb a lefel ffitrwydd. Ymunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu, cymuned a hwyl!
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Strategaeth Gwastraff uchelgeisiol wedi’i chymeradwyo gan y Cyngor
Disgyblion yn cymryd rhan yn y gwaith o adeiladu eu hystafelloedd dosbarth newydd
Hoffech chi redeg cyfleuster cymunedol?
Cyflwyno’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Chwaraeon Caerffili 2024
Mae gwaith uwchraddio nwy yn dechrau ar Heol Pontygwindy, Caerffili
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y