News Centre

Seremoni Gyhoeddi i'w chynnal yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 09 Medi 2022

Seremoni Gyhoeddi i'w chynnal yng Nghaerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal Seremoni Gyhoeddi leol, yn dilyn marwolaeth drist Ei Mawrhydi y Frenhines, i ddatgan yn ffurfiol esgyniad y sofran newydd, y Brenin Charles III.
 
Bydd y Cyhoeddiad yn cael ei ddarllen am 4pm ddydd Sul 11 Medi wrth risiau canolfan gymunedol y Twyn yng Nghaerffili, a bydd yn cael ei arwain gan Ddirprwy Faer y Fwrdeistref Sirol, y Cynghorydd Mike Adams.
 
Gwahoddir y cyhoedd i fynychu’r digwyddiad hanesyddol hwn.
 
Cynghorir trigolion y bydd maes parcio’r Twyn ar gau am y diwrnod cyfan ar ddydd Sul; mae'r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.


Ymholiadau'r Cyfryngau