News Centre

Ymestyn parcio am ddim yng nghanol trefi tan fis Ionawr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 26 Medi 2022

Ymestyn parcio am ddim yng nghanol trefi tan fis Ionawr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili heddiw (26 Medi) wedi cytuno ar gynigion i ymestyn parcio am ddim yng nghanol trefi tan fis Ionawr 2023.

Yn ogystal, pan fydd ffioedd parcio yn cael eu hailgyflwyno, bydd y gost gychwynnol fesul awr yn cael ei gostwng i 40c. Hefyd, bydd peiriannau tocynnau newydd yn cael eu gosod ym meysydd parcio y Cyngor, gan ei gwneud yn haws i ymwelwyr dalu am barcio.

Cafodd adborth o ymarfer ymgynghori ei ystyried gan aelodau'r Cabinet, a gafodd ei gynnal gyda'r cyhoedd a busnesau, cyn cymeradwyo'r argymhellion.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Simmons, Aelod Cabinet y Cyngor dros Briffyrdd a Chludiant, “Rydyn ni'n falch o gyhoeddi y bydd parcio am ddim yn parhau dros yr hydref a chyfnod prysur y Nadolig, a fydd gobeithio'n annog mwy o bobl i siopa'n lleol.

“Fel Cabinet, rydyn ni wedi cymryd llawer o ffactorau i ystyriaeth wrth ystyried cynigion ar gyfer ffioedd parcio, gan gynnwys barn trigolion a busnesau. Yn ystod y broses ymgynghori, roedd pryder ynghylch argaeledd mannau parcio yng nghanol rhai o'n trefi ni; mater sydd wedi'i waethygu mewn rhai ardaloedd oherwydd cael gwared ar ffioedd. Dylai ailgyflwyno ffioedd helpu rhai o'r ardaloedd sy'n wynebu'r broblem hon, tra bydd gweithredu cost gychwynnol is fesul awr yn sicrhau bod parcio'n parhau i fod yn fforddiadwy i'r rhai sy'n dymuno ymweld â'n trefi ni am gyfnodau byrrach.

“Mae'r incwm o'r ffioedd hefyd yn hanfodol i'n galluogi ni i barhau i gynnal a chadw ein meysydd parcio a rhwydwaith priffyrdd ehangach ni.”


Ymholiadau'r Cyfryngau