News Centre

Datganiad y Cyngor ynghylch gwaith - cylchfan Pont Bedwas ar yr A468

Postiwyd ar : 05 Medi 2022

Datganiad y Cyngor ynghylch gwaith - cylchfan Pont Bedwas ar yr A468
Cafodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wybod am y gwaith ffordd a oedd yn digwydd ar gylchfan A468 Pont Bedwas ddydd Sul 04.09.22. Ni ddilynodd y broses briodol o gymeradwyo cyn i'r gwaith gael ei wneud. Rydyn ni’n deall bod hyn wedi achosi aflonyddwch dros y penwythnos yn ystod Gŵyl y Caws Bach. Gwnaethom ni weithredu’n gyflym i atal y gwaith ac, yn yr un modd, byddwn ni’n parhau i ymchwilio ymhellach i’r mater hwn gan ein bod ni’n cymryd toriadau o’r natur hon yn ddifrifol iawn. Byddwn ni’n cymryd camau priodol yn dilyn canlyniad yr ymchwiliad.

Ymholiadau'r Cyfryngau