Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu digwyddiadau galw heibio i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Postiwyd ar : 01 Medi 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio i helpu trigolion i ddod o hyd i gymorth gyda'r argyfwng costau byw.
Bydd y digwyddiadau yn rhoi cyfle i drigolion siarad wyneb yn wyneb â staff y Cyngor, a all helpu gyda phroblemau gan gynnwys budd-daliadau, tai, dyled, a chymorth bwyd.
Sesiynau galw heibio yw’r digwyddiadau, felly nid oes angen apwyntiad, ac maen nhw'n agored i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol.
Amserlen digwyddiadau Galw Heibio Costau Byw