News Centre

Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau adfywio uchelgeisiol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 27 Medi 2022

Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau adfywio uchelgeisiol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau adfywio uchelgeisiol a fydd yn golygu buddsoddi miliynau o bunnoedd yn yr ardal.

Fe gymeradwyodd aelodau'r Cabinet gynigion ar gyfer buddsoddiad posibl drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, a fydd yn cyfrannu'n sylweddol at raglen bresennol y Cyngor, Llunio Lleoedd.

Mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili ddyraniad amodol gwerth £28,272,298 drwy'r gronfa, yn ogystal â dyraniad gwerth £5,901,499 ar gyfer Lluosi, sef rhaglen rifedd i oedolion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, hyd at fis Mawrth 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Adfywio, “Rydyn ni wedi gweithio o fore gwyn tan nos er mwyn tynnu sylw at yr ymyriadau a'r prosiectau allweddol sydd eu hangen ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Gyda'n cynllun pwrpasol ein hunain, rydyn ni'n addo cynyddu ymyriadau yng nghanol ein trefi, cynyddu cyllid ar gyfer busnesau a rhoi cymorth o ran cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau. Mae'n bwysig ein bod ni nawr yn gwireddu'r mentrau hyn.”

Hefyd, cafodd Cynllun Buddsoddi Lleol Caerffili ei gymeradwyo gan y Cabinet, sy'n nodi nifer o fentrau lle gellid defnyddio'r cyllid i wella adfywiad ffisegol, wrth fynd i'r afael hefyd â'r ystod o faterion economaidd-gymdeithasol sy'n cael eu hwynebu yn y Fwrdeistref Sirol.
 


Ymholiadau'r Cyfryngau