Parti Traeth Coed Duon - wedi'i ganslo
Postiwyd ar : 09 Medi 2022
Mae Parti Traeth Coed Duon, a oedd yn cymryd lle dydd Sadwrn, Medi 10, wedi cael ei ganslo yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, yn 96 oed.
Bydd trefnwyr y digwyddiad yn cysylltu â stondinwyr, masnachwyr a’r holl sefydliadau eraill sy’n ymwneud â’r digwyddiad cyn gynted â phosibl i drafod y camau nesaf.
Hoffem ni ymddiheuro am y siom a’r anghyfleustra, ond mae'r trefnwyr yn teimlo na fyddai’n briodol mynd ymlaen â’r digwyddiad ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n adolygu'r holl ddigwyddiadau eraill sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor dros y 10 diwrnod nesaf a byddwn ni'n darparu rhagor o fanylion yn hwyrach heddiw ynghylch a fyddan nhw'n mynd yn eu blaenau nhw.