News Centre

​Even our mini’s are mighty recyclers

Postiwyd ar : 23 Medi 2021

​Even our mini’s are mighty recyclers
I ddathlu wythnos Genedlaethol Ailgylchu, mae Cyngor Caerffili yn cynyddu ei raglen ailgylchu mewn ysgolion trwy ddarparu cyfleusterau ailgylchu newydd sbon mewn ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd ffreutur ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Mae'r fenter yn rhan o brosiect effeithlonrwydd adnoddau, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau enillion pellach wrth reoli gwastraff yn gynaliadwy.
 
Dywedodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Nigel George, “Fel rhan o'n hymdrechion ni i warchod cenedlaethau'r dyfodol, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i wella'r arlwy ailgylchu yn ein lleoedd dysgu ac, yn ei dro, hyrwyddo egwyddorion byw'n well a defnyddio llai ymhellach.”
 
I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Ailgylchu (rhwng 20 a 26 Medi 2021), mae cyfleusterau ailgylchu yn cael eu darparu i ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu lleihau gwastraff ac ailgylchu mwy, a thrwy hynny gefnogi uchelgais Tîm Cymru i gyrraedd safle rhif 1 yn y byd am ailgylchu.
 
Am ragor o wybodaeth, ewch i walesrecycles.org.uk/cy/cartref-cymraeg


Ymholiadau'r Cyfryngau