News Centre

Gwaith yn cychwyn ar gyfleusterau chwarae newydd Caerffili

Postiwyd ar : 24 Medi 2021

Gwaith yn cychwyn ar gyfleusterau chwarae newydd Caerffili
L - R: Michelle Bridges, Cllr Lisa Phipps, Cllr Chris Morgan & Cllr Derek Havard at the new play area
Mae gwaith wedi cychwyn i ddod â chyfleusterau awyr agored newydd i blant a phobl ifanc yn ardaloedd Bedwas a Thretomos yng Nghaerffili.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn uwchraddio'r man chwarae presennol i blant ym Mharc Bryn, yn ogystal â gosod ardal gemau aml-ddefnydd newydd. Mae'r cyfleusterau newydd yn cael eu hariannu trwy raglen y Cyngor i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, ynghyd â chyfraniad o £20,000 gan Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen.

Mae rhaglen y Cyngor eisoes wedi buddsoddi dros £260 miliwn mewn cartrefi tenantiaid a chymunedau lleol. Mae'r buddsoddiad hwn wedi cynnwys cyflawni ystod eang o welliannau amgylcheddol ledled y Fwrdeistref Sirol, fel mannau chwarae, parciau sglefrio, tirlunio a lleoedd parcio ceir ychwanegol. 

Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai ac aelod ward leol, “Rydyn ni bron â chwblhau ein rhaglen i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, sydd wedi gweld y buddsoddiad unigol mwyaf erioed i'n stoc dai. Trwy gydol y rhaglen, rydyn ni wedi gweithio gyda chymunedau i nodi eu blaenoriaethau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yn eu hardal.”

Dywedodd trigolyn lleol, Michelle Bridges, “Rydyn ni'n hynod falch o weld bod ardal Bedwas, Tretomos a Machen nawr yn mynd i elwa nid yn unig ar barc a champfa awyr agored newydd, ond hefyd ardal gemau aml-ddefnydd newydd o'r radd flaenaf. Ni fyddai hyn i gyd wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth a'r cyllid sydd ar gael i'r ardal gan Gyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen. Rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran y gymuned leol a hoffwn i nodi ein diolch.”

Aeth y Cynghorydd Phipps ymlaen, “Trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Bedwas, Tretomos a Machen, rydyn ni wedi gallu ychwanegu at y gwelliannau yn yr ardal hon a darparu cyfleusterau awyr agored ar gyfer ystod o oedrannau.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Cyngor Cymuned, y Cynghorydd Chris Morgan, “Rwy'n falch bod ein Cyngor yn gallu cefnogi'r prosiect hwn er budd ein trigolion, rwy'n edrych ymlaen at weld llawer mwy yn cael ei wneud mewn wardiau eraill.”


Ymholiadau'r Cyfryngau