News Centre

Ymgyrch newydd wedi'i lansio i recriwtio Gofalyddion

Postiwyd ar : 20 Medi 2021

Ymgyrch newydd wedi'i lansio i recriwtio Gofalyddion
Mae Maethu Cymru wedi lansio ymgyrch newydd sbon. Mae'r rhwydwaith newydd o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled y wlad yn bwriadu cael effaith sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc.

Gyda dros draean (39%) o oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod nhw wedi ystyried dod yn ofalydd maeth, mae ymgyrch newydd yn lansio yng Nghymru heddiw, sydd â'r nod o gynyddu'r nifer ac amrywiaeth o ofalyddion Maethu Caerffili.
 
Gall helpu plant i aros yn eu cymuned leol fod o fudd enfawr ac yn werth y byd i blentyn. Nid yn unig y mae'n eu cadw nhw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu hysgol a'u hunaniaeth, ond mae hefyd yn magu hyder ac yn lleihau straen.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Bydd ymuno â Thîm Maethu Caerffili yn caniatáu i chi gael effaith sy'n newid bywyd plentyn neu blant lleol. Mae arnom ni angen pobl sy'n gallu caru a meithrin y plant, a'u helpu nhw i lunio dyfodol cadarnhaol. Byddwn i'n annog unrhyw un sydd ag ystafell sbâr ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth i gysylltu â'r tîm heddiw i gymryd y cam cyntaf ar y siwrnai gofal maeth.”
 
Ar draws Cymru, mae angen recriwtio tua 550 o deuluoedd a gofalyddion maeth newydd bob blwyddyn o hyd, er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu ateb y galw parhaus a chael pobl i gymryd lle'r gofalyddion hirsefydlog hynny sydd wedi ymddeol. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Cook, “Nid oes unrhyw ddau blentyn yr un peth, ac nid yw'r gofal maeth sydd ei angen arnyn nhw chwaith. Nid oes teulu maeth ‘nodweddiadol’. P'un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu'n rhentu, p'un a yw'n briod neu'n sengl. Gwaeth beth fo'u rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd neu grefydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun i'w cefnogi nhw. Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen arnom ni yw mwy o bobl fel chi i agor eich drysau a'u croesawu nhw.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda'r Awdurdod Lleol, ewch i fosterwales.caerphilly.gov.uk/cy, ffonio 0800 587 5664 neu anfon y gair ‘maethu’ mewn neges destun i 78866.


Ymholiadau'r Cyfryngau