News Centre

Cyngor Caerffili yn cefnogi'r Ymgyrch Gwych

Postiwyd ar : 20 Medi 2021

Cyngor Caerffili yn cefnogi'r Ymgyrch Gwych
Cyngor Caerffili yn cefnogi'r Ymgyrch Gwych i helpu Cymru i gyrraedd safle rhif 1 yn y byd am ailgylchu
 
Cymru eisoes yw trydedd genedl orau'r byd am ailgylchu, ac mae'r Ymgyrch Gwych i'n cael ni i safle rhif 1 yn parhau yn ystod Wythnos Ailgylchu 2021, sy'n dechrau heddiw (20 Medi).
 
Mae ailgylchu yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhywbeth syml y gall pawb ei wneud i helpu sicrhau effaith wirioneddol. Dros y blynyddoedd, mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymryd camau i wella'r cyfraddau ailgylchu – gyda llu o ymgyrchoedd rhagweithiol, mentrau curo drysau a defnyddio bin sengl i annog pobl i gymryd rhan.
 
Ailgylchu yw'r peth normal yng Nghymru bellach, gyda dros 92% ohonom ni'n ailgylchu'n rheolaidd fel rhan o'n harferion pob dydd. Rydyn ni'n ailgylchu croen ffrwythau a llysiau, plisg wyau, bagiau te a bwyd wedi'i grafu oddi ar ein platiau yn ein cadis bwyd; ailgylchu o bob ystafell gan gynnwys yr ystafell ymolchi a'r ystafell wely, ac ailgylchu eitemau anodd fel erosolau gwag.
 
Fodd bynnag, mae bron hanner ohonom ni'n dal i beidio ag ailgylchu popeth y gallwn ni ei ailgylchu, felly, os ydyn ni am helpu Cymru i gyrraedd y brig, mae angen i ni fynd gam ymhellach ac ailgylchu mwy fyth.
 
Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Rwy'n hynod falch o'n trigolion ni, a'u hymdrech enfawr i ailgylchu a helpu Cymru i gyrraedd safle rhif 1. Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu trigolion i gyfrannu at greu amgylchedd gwyrddach a glanach ar hyn o bryd ac er budd cenedlaethau'r dyfodol.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymgyrch Gwych, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadw llygad am weithgareddau'r ymgyrch ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymru yn Ailgylchu, neu ymuno yn y sgwrs gan ddefnyddio: #WythnosAilgylchu #ByddWychAilgylcha #RecycleWeek #BeMightyRecycle


Ymholiadau'r Cyfryngau