News Centre

​Cofrestru cyw cynnar ar agor ar gyfer Cyfres Heriau Caerffili – Yr Efail

Postiwyd ar : 20 Hyd 2022

​Cofrestru cyw cynnar ar agor ar gyfer Cyfres Heriau Caerffili – Yr Efail
Cyfres Heriau Caerffili – Yr Efail

Bydd Cyfres Heriau Caerffili Nikwax yn dychwelyd ddydd Sadwrn 6 Mai 2023, gyda'r unfed ar ddeg digwyddiad Cyfres Heriau Caerffili – Yr Efail.

Eleni, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Grŵp Antur Caerffili, Cerddwyr Caerffili, Cerddwyr Islwyn a phartneriaid eraill unwaith eto yn cynnig HER A HANNER i gerddwyr a rhedwyr o bob gallu.

Fel sy'n arferol… bydd llwybrau Cyfres Heriau Caerffili yn addas i bob lefel ffitrwydd a gallu.  

Mae'r llwybrau wrthi'n cael eu cynllunio/cwblhau, a byddwn ni'n cyhoeddi union bellteroedd y llwybrau maes o law.

Dyma'r llwybrau arferol:

  • Llwybr 1–5 milltir (taith gerdded dan arweiniad) * Cofrestru ar y diwrnod
  • Llwybr 9–11 milltir (taith gerdded dan arweiniad)
  • Llwybr 14–16 milltir (her hunan-arweiniol a thaith gerdded dan arweiniad)
  • Llwybr 20–22 milltir (her hunan-arweiniol a thaith gerdded dan arweiniad) 

Mae'r heriau hunan-arweiniol wedi'u dylunio i gynnwys cerddwyr, loncwyr neu hyd yn oed redwyr.

Cost cofrestru cyw cynnar os ydych chi'n cadw'ch lle cyn 7 Ionawr 2023: £10

£2 ychwanegol o ddisgownt i'r rhai sy'n cofrestru sydd 18 oed ac iau.

Dyddiad cau 26 Ebrill 2023.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Cyfres Heriau Caerffili – Yr Efail – ewch i: www.caerphillychallengeseries.co.uk/cy

 



Ymholiadau'r Cyfryngau