News Centre

Sêr-wirfoddolwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo fawreddog

Postiwyd ar : 25 Hyd 2022

Sêr-wirfoddolwyr yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo fawreddog
Mae gwirfoddolwyr ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Cyflawniad Gwirfoddolwyr 2022 yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. 
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn trefnu'r seremoni wobrwyo i anrhydeddu gwirfoddolwyr sy'n ymgymryd â gwaith o bob math yn y gymuned leol.
 
Yn ystod y noson, cafodd yr enillwyr eu llongyfarch a chafodd y gwobrau eu cyflwyno iddyn nhw ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Gwent, yr Uchel Siryf a Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Dyma restr lawn yr enillwyr eleni:
 
Gwirfoddolwr Ifanc
Enillwyr: Maddie Malpas, James Sage a Jacob Bryan o Sgowtiaid Ystrad Mynach
Yn ail: Charlie Phillips

Gwirfoddolwr – Rhiant a Phlant
Enillydd: Iona Watkins
Yn ail: Bridging Together
 
Gwirfoddolwr – Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwr
Enillydd: Michelle Jones
Yn ail: Tara Holloway
 
Gwirfoddolwr Cynaladwyedd Bwyd
Enillydd: Hwb Cymunedol Cwmfelin-fach
Yn ail: Roger Hewitt
 
Gwirfoddolwr Chwaraeon
Enillydd: Sam Palmer
Yn ail: Clwb Tenis Caerffili
 
Gwirfoddolwr Diwylliant a Threftadaeth Cymru
Enillydd: Christopher Williams
Yn ail: Nigel Bull

Gwirfoddolwr Iechyd a Lles
Enillydd: Haydn Pritchard
Yn ail: Mike Rees
 
Gwirfoddolwr Amgylcheddol
Enillwyr: Grŵp Garddio Canolfan Glowyr Caerffili
Yn ail: John a Sue Venn
 
Gwirfoddolwr Ysbrydoledig
Enillydd: Theresa Heal
Yn ail: Kelly Farr
 
Gwobr Ddinesig y Maer
Enillydd: Sue Griffin
 
Gwobr yr Uchel Siryf
Enillydd: Carl Jones

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Mae’r gwobrau’n ddathliad o ysbryd, brwdfrydedd ac ymroddiad diddiwedd ein sector gwirfoddoli ffyniannus ac mae’n bleser ac yn anrhydedd i mi fod yn rhan ohono fe.
 
“Mae gwirfoddolwyr yn amhrisiadwy oherwydd eu bod yn chwarae cymaint o rôl hanfodol yn ein cymdeithas. Mae seremonïau gwobrwyo fel hyn yn ein galluogi i wneud tipyn bach i gydnabod y cyfraniad cadarnhaol y maen nhw’n ei wneud i fywydau cymaint o bobl."


Ymholiadau'r Cyfryngau