News Centre

Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn mynychu dwy seremoni wobrwyo ac yn gadael â phedair gwobr

Postiwyd ar : 26 Hyd 2022

Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn mynychu dwy seremoni wobrwyo ac yn gadael â phedair gwobr
Mae Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru ar gyfer Argyfwng Iechyd Meddwl wedi ennill ‘Gwobr Arloesedd Cynllun’ yn y gwobrau Cysylltu Bywydau a Mwy 2022. Mae’r gwasanaeth yn cynnig dewis arall yn lle cyfnod yn yr ysbyty i gleifion mewnol, neu ryddhau cleifion yn gynnar o’r ysbyty.
 
Nid dyma’r tro cyntaf i dîm De-ddwyrain Cymru ennill y wobr fawreddog hon, ac yntau wedi cael ei wobrwyo'n flaenorol ar gyfer prosiect y Fenter Iechyd yn 2019. Ers hynny, mae'r cynllun wedi mynd o nerth i nerth, gan ehangu i arbenigo mewn gwasanaethau Argyfwng Dementia ac Iechyd Meddwl.
 
Nid y Cynllun yn unig a enillodd wobr. Cafodd Clint Attard, gofalwr Cysylltu Bywydau, wobr ‘Gofalwr y Flwyddyn 2022 Canmoliaeth Uchel y Beirniaid’ am ei gyfraniad eithriadol i’r gwasanaeth Argyfwng Iechyd Meddwl Cysylltu Bywydau.
 
Yn ystod yr un wythnos â gwobrau Cysylltu Bywydau a Mwy, mynychodd y tîm hefyd Wobrau Iechyd Meddwl a Lles Ajuda Cymru lle cafodd y cynllun ei enwebu ar gyfer 6 gwobr.
 
Enwebodd y tîm 3 gofalwr ar gyfer y wobr “Unigolyn Ysbrydoledig” lle cyrhaeddodd y 3 gofalwr – Pat Roberts, Maggs Evans a Clint Attard – y rownd derfynol allan o 58 o geisiadau, gyda Clint Attard yn ennill yr wobr aur!
 
Dywedodd y beirniaid, “Nid profiad Clint o weithio yn y sector gofal yn unig sy’n rhoi’r holl nodwedd hanfodol iddo fe i fod yn ofalwr sy’n sefyll allan, ond y profiad bywyd a’r cynhesrwydd y mae e’n eu cynnig fel gwesteiwr i’r rhai sydd angen ei gymorth, yn ystod rhan fwyaf heriol eu bywydau i rai.”
 
Llwyddodd y Cynllun Cysylltu Bywydau hefyd i gyrraedd rownd derfynol yr wobr “Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gorau yn ystod y Pandemig” ac enillodd yr wobr arian yn y categori “Cynnyrch neu Wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gorau”.
 
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Rydw i mor falch bod pawb yn y tîm Cysylltu Bywydau yn cael eu cydnabod am eu gwaith caled wrth greu gwasanaeth cymorth iechyd meddwl arobryn.
 
“Mae’r Cynllun Cysylltu Bywydau yn adnodd amhrisiadwy sy’n rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl agored i niwed mewn ffordd gynnes ac urddasol, ac mae’r gwobrau hyn yn dangos pa mor bwysig yw e.
 
“Ni fyddai’r cynllun yn bosibl heb y gofalwyr gwych sy’n rhannu eu hamser, eu cartrefi a’u cymunedau â’r bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo a hoffwn i ddiolch i bob gofalwr am eu rôl hanfodol yn cynorthwyo’r rhai mewn angen.”
 
I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cysylltu Bywydau a'r manteision y gallai rôl gofalwr Cysylltu Bywydau ei gynnig i'ch cartref chi, cysylltwch â ni ar LleoliOedolion@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863046


Ymholiadau'r Cyfryngau