News Centre

Cabinet Caerffili yn ymrwymo i barhau talu'r Cyflog Byw Sylfaenol a chynyddu cyfraddau milltiredd dros dro

Postiwyd ar : 21 Hyd 2022

Cabinet Caerffili yn ymrwymo i barhau talu'r Cyflog Byw Sylfaenol a chynyddu cyfraddau milltiredd dros dro
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno i barhau â’i ymrwymiad i dalu’r gyfradd Cyflog Byw Sylfaenol i’w staff ac i fabwysiadu’r ‘Protocol Interim ar y cyd – Cyfraddau Milltiredd mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru’ i ddarparu cynnydd dros dro mewn costau ad-dalu milltiredd.
 
Cafodd y cynigion eu cymeradwyo yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Hydref, lle cytunodd aelodau'r Cabinet hefyd i weithredu'r gyfradd uwch o £10.90 o 22 Medi 2022.  Dyma’r cynnydd mwyaf yn hanes y sefydliad; y gyfradd a gafodd ei chytuno ym mis Tachwedd 2021 oedd £9.90.

Cymeradwyodd y Cabinet hefyd gynnydd dros dro mewn costau ad-daliadau milltiredd yn y tymor byr i fynd i'r afael ag anwadalrwydd presennol y farchnad mewn cyfraddau tanwydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Corfforaethol, “Fel cyflogwr cyfrifol, mae’r Cyngor wedi talu’r Cyflog Byw Sylfaenol ers 2012 ac yn ymrwymedig i'w barhau.  Rydyn ni'n ymwybodol iawn o effaith yr argyfwng costau byw ac, fel Cabinet, rydyn ni wedi penderfynu ôl-ddyddio’r gyfradd uwch i ddyddiad cynharach mis Medi er mwyn cynnig cymorth ariannol ychwanegol i staff.  

“Mae’r Cyngor yn ystyried amrywiaeth o ddulliau i gynorthwyo staff a thrigolion yn ystod y cyfnod anodd hwn, mabwysiadu’r Cyflog Byw cynyddol a’r cynnydd dros dro mewn ad-daliadau milltiredd yw rhai o’r ffyrdd rydyn ni'n eu gweithredu.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Mercher, 19 Hydref, 2022, 1.00 pm (group.local)
 


Ymholiadau'r Cyfryngau