News Centre

Cabinet yn cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol ar gyfer datblygiad Fferm Solar yng Nghwm Ifor

Postiwyd ar : 05 Hyd 2022

Cabinet yn cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol ar gyfer datblygiad Fferm Solar yng Nghwm Ifor
Ym mis Mehefin 2021, cytunodd y Cabinet i neilltuo swm o £483,000 i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu Fferm Solar 20MW (mega-wat) ar dir preifat yng Nghwm Ifor, ger Pen-yr-heol, Caerffili.

Mae'r achos busnes amlinellol yn rhoi eglurder pellach ar raddfa, dyluniad ac allbynnau'r fferm solar er mwyn gwneud penderfyniadau ar ddyfodol y prosiect.

Nawr bod yr Achos Busnes Amlinellol wedi'i gymeradwyo, bydd swyddogion yn symud i gam nesaf y prosiect, cyflwyno cais cynllunio ac ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn, drwy broses gaffael lawn.

Mae cynnig Fferm Solar Cwm Ifor yn ceisio datblygu fferm solar 20MW ym Mhen-yr-heol, i'r gogledd o ganol tref Caerffili. Mae gan y prosiect y potensial i fod y fferm solar fwyaf yng Nghymru sy’n eiddo i awdurdod cyhoeddus.

Byddai hyd oes o tua 35 mlynedd gan y prosiect £12 miliwn ac, o ganlyniad, yn ôl amcangyfrif, mae 40 o swyddi ‘gwyrdd’ yn gallu cael eu creu yn ystod oes y cynllun. Byddai'r cynnig hefyd yn darparu arbedion oes C02 o 55,300; tua 1,580 y flwyddyn, sy'n ddigon i bweru tua 6,000 o gartrefi.

Datganodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili argyfwng hinsawdd ym mis Mehefin 2019. Mae angen cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd datblygu fferm solar sy'n eiddo lleol yn y Fwrdeistref Sirol yn helpu cefnogi datgarboneiddio’r system drydan leol ac yn dangos arweiniad o ran mynd i’r afael ag allyriadau carbon a datgarboneiddio’r system ynni.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, “Bydd y cynnig uchelgeisiol hwn yn cyd-fynd â’n hagenda datgarboneiddio ni a byddai’n darparu'r potensial ar gyfer datblygiad fferm solar blaenllaw sy’n gallu cynhyrchu 20 miliwn cilowat awr (KWh) y flwyddyn.

“Nawr bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r achos busnes amlinellol, bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu’n fanwl â thrigolion, ysgolion, y gymuned fusnes ac eraill am y cynnig fferm solar, gan gynnwys opsiynau lleoli, defnydd tir a mesurau lliniaru, i’n galluogi ni i wneud penderfyniad gwybodus a chadarn pan fydd yr achos busnes terfynol yn cael ei gyflwyno.”

Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am y Fferm Solar arfaethedig, cliciwch yma: https://www.caerffili.gov.uk/cymerwchran/Ymgynghoriadau/FfermsolarPen-yr-heol


Ymholiadau'r Cyfryngau