News Centre

Cabinet yn canmol gwaith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 'Caerffili Saffach'

Postiwyd ar : 06 Hyd 2022

Cabinet yn canmol gwaith Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 'Caerffili Saffach'
Yn ystod cyfarfod ar 5 Hydref, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi canmoliaeth i waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol leol.
 
Hefyd, cafodd cylch gorchwyl Partneriaeth Caerffili Saffach ei gymeradwyo gan aelodau'r Cabinet, a chafodd y Cynghorydd Philippa Leonard, yr aelod Cabinet presennol sydd â chyfrifoldeb am ddiogelwch cymunedol, ei chymeradwyo fel cynrychiolydd pleidleisio'r Cyngor ar gyfer y Bartneriaeth.
 
O dan Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 'Caerffili Saffach', mae awdurdodau cyfrifol yn cydweithio i fynd i'r afael â throsedd ac anhrefn, camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill, a lleihau aildroseddu.  Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Heddlu Gwent, Awdurdod Tân ac Achub De Cymru, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
 
Yn ystod y cyfarfod, cafodd aelodau’r Cabinet eu diweddaru ynghylch mentrau llwyddiannus sydd wedi’u cyflwyno gan Bartneriaeth Caerffili Saffach, gan gynnwys:
  • Prosiectau i atal cynnau tanau'n fwriadol megis Ymgyrch Dawns Glaw, Prosiect Bernie ac Ymgyrch Bang, sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol dros Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
  • Gweithrediadau ar y Cyd a Gorchmynion Gwasgaru sy'n cael eu cyflawni gan Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol, Heddlu Gwent a phartneriaid.
  • Sesiynau Allgymorth y Gwasanaeth Ieuenctid a Dyfodol Cadarnhaol wythnosol i dargedu ardaloedd problemus ac ymgysylltu â phobl ifanc sydd ar fin troseddu.
  • Prosiectau’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i atal ymddygiad troseddol cynyddol, sy'n gallu cynnwys cymorth a mentora teuluol.
  • Gweithredu Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, sy'n cwmpasu dros 300 o leoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol, i gyd yn anelu at atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd, “Ers ei sefydlu, mae Partneriaeth Caerffili Saffach wedi cyflawni nifer o brosiectau a mentrau sy’n mynd i’r afael â materion presennol yn ogystal â datblygu agwedd ragweithiol tuag at atal.  Cipolwg yn unig yw’r adroddiad hwn o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan y bartneriaeth i geisio cadw ein cymunedau ni’n ddiogel er pleser pawb.  Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yma ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio er budd trigolion ac ymwelwyr y Fwrdeistref Sirol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau