News Centre

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn barod ar gyfer y gaeaf

Postiwyd ar : 21 Tach 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn barod ar gyfer y gaeaf

Gyda'r gaeaf ar y gorwel, hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili roi sicrwydd i'r trigolion ein bod yn barod ar gyfer y gaeaf.

Mae 13 o gerbydau graeanu ar gael i'r Cyngor eu defnyddio, ac mae modd gosod aradr eira ar bob un ohonynt os oes angen. Mae hefyd tua 9,000 o dunelli o raean ar gael ar gyfer trin y ffyrdd yn ystod y nosweithiau rhewllyd. 

Mae staff hyfforddedig yn monitro rhagolygon y tywydd a gwybodaeth o bum gorsaf dywydd yn Rhymni, Markham, Hafodyrynys, Caerffili, ac Ystrad Mynach. Mae'r penderfyniad i raeanu yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys tymheredd y ffordd, tymheredd yr aer, glawiad, a'r posibilrwydd o eira a chawodydd gaeafol. Mae gwybodaeth o'r gorsafoedd tywydd a'r camau a ragwelir hefyd yn cael eu rhannu ymhlith cynghorau lleol cyfagos i roi darlun lleol cliriach o'r tywydd ar draws de-ddwyrain Cymru.

Mae'r Cyngor yn rhoi blaenoriaeth i ffyrdd allweddol ar draws y fwrdeistref sirol – sy'n cynnwys y rhan fwyaf o lwybrau'r bysiau a'r llwybrau i safleoedd y gwasanaethau brys, cyfleusterau meddygol allweddol a chyfleusterau cyhoeddus – er mwyn sicrhau bod modd i brif rwydwaith y priffyrdd weithredu yn ystod tywydd garw. Mae'r llwybrau hyn yn unig yn mesur 301 o filltiroedd. Nid yw'n bosibl i'r Cyngor raeanu pob ffordd – ar hyn o bryd, mae dros 900 o finiau graean wedi'u gosod mewn mannau canolog fel bod modd i drigolion wasgaru graean ar y briffordd a'r mannau i gerddwyr os oes angen. 

Dywedodd y Cynghorydd Julian Simmonds, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn barod ar gyfer y gaeaf. Mae gennym gyflenwad mawr o raean a fflyd o gerbydau yn barod i ddelio â rhew ac eira. Mae ein tîm priffyrdd yn monitro rhagolygon y tywydd yn gyson, ac maent yn barod i ymateb 24 awr y dydd. Ein blaenoriaeth, bob amser, fydd sicrhau bod y prif lwybrau'n glir ac yn llifo, yn ogystal â sicrhau ein bod yn helpu'r rhai sydd ein hangen fwyaf.”

Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion eira a thywydd garw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. https://public.govdelivery.com/accounts/UKCAERPHILLY_CY/subscriber/new

Mynnwch y rhagolygon diweddaraf gan y Swyddfa Dywydd ar-lein: www.metoffice.gov.uk

Darganfyddwch ragor am ein cynllun gwasanaeth gaeaf a sut a phryd rydyn ni'n graeanu. 


 


Ymholiadau'r Cyfryngau