News Centre

Grŵp Maes-y-coed yn aros mewn cysylltiad diolch i gefnogaeth gan Gyngor Caerffili

Postiwyd ar : 25 Tach 2022

Grŵp Maes-y-coed yn aros mewn cysylltiad diolch i gefnogaeth gan Gyngor Caerffili
Mae Grŵp Henoed Maes-y-coed wedi gallu parhau i gadw mewn cysylltiad diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Yn ddiweddar, roedd y grŵp, sydd wedi bod yn rhedeg ers dros 30 mlynedd, yn cael trafferth i dalu costau teithio i gyfarfodydd a gweithgareddau, oherwydd costau cynyddol trafnidiaeth.
 
Helpodd Cysylltwyr Cymunedol, sydd wedi’u lleoli o fewn Tîm Caerffili yn Gofalu y Cyngor, y grŵp i oresgyn y mater hwn trwy weithio gyda Paramount Travel i drefnu cludiant i aelodau’r grŵp i’w sesiynau wythnosol a'u gweithgareddau, gan gynnwys eu pryd Nadolig blynyddol.
 
Dywedodd un o aelodau’r grŵp, Mrs Baker, “Rwyf wedi bod yn aelod o Grŵp Henoed Maes-y-coed ers 31 mlynedd. Mae'r cyfeillgarwch, y cariad a'r caredigrwydd a ddangoswyd yno wedi bod y tu hwnt i waradwydd. Rwy’n ddiolchgar i Gyngor Caerffili am fod yno i’n cefnogi.”
 
Ychwanegodd Mrs Nash, aelod y grŵp o Benllwyn, “Cyngor Caerffili, hoffwn i ddiolch i chi am y cyllid yr ydych yn ei ddarparu i gadw ein trafnidiaeth i fynd.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am Gymunedau a Hyrwyddwr Oed-Gyfeillgar, “Mae’r grŵp hwn yn enghraifft wych o gymuned yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â phroblemau unigrwydd ac arwahanrwydd.
 
“Rydym yn deall yr heriau a wynebir gan grwpiau, fel hyn, o ganlyniad i’r argyfwng costau byw presennol; ond hefyd yn cydnabod na fu’r cymorth y maent yn ei ddarparu i gymunedau lleol erioed mor bwysig, felly rydym yn falch iawn o allu cynnig ein cefnogaeth a’u helpu i barhau â’u gwaith rhagorol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau