News Centre

Diwrnod Rhuban Gwyn 2022

Postiwyd ar : 25 Tach 2022

Diwrnod Rhuban Gwyn 2022
Rydym yn gofyn i drigolion ledled Gwent gymryd rhan a chefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Gwener 25 Tachwedd.

Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig.

Bob wythnos yng Ngwent, mae 33 o fenywod mewn perygl o niwed difrifol oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.

Eleni, rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol gymryd rhan yn #Her33 i godi ymwybyddiaeth o'r ffigwr dychrynllyd hwn.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent, Jeff Cuthbert: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn bwysig iawn i godi ymwybyddiaeth o'r effaith ddinistriol mae trais yn erbyn menywod yn gallu ei chael, nid yn unig ar unigolion ond ar eu teuluoedd hefyd.

“Mae angen eich help chi arnom ni i annog pobl eraill i gymryd safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod a gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy'n dioddef camdriniaeth i godi llais a cheisio cymorth.

“Peidiwch â dioddef yn dawel, mae help ar gael.”

Mae #Her33 yn cael ei threfnu gan Bartneriaeth Ranbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Gwent, sef cydweithrediad amlasiantaeth sy’n gweithio ledled Gwent i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Gall pobl, teuluoedd, ysgolion, sefydliadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol gosod heriau i'w hun sy'n canolbwyntio ar y rhif 33 ac maen nhw'n cael eu hannog i rannu eu gweithredoedd o gefnogaeth ar-lein.

Gallai'r her ddigwydd ar ddydd Gwener 25 Tachwedd neu unrhyw bryd yn ystod yr 16 diwrnod o weithredu, sy'n dod i ben ar 10 Rhagfyr.

Mae pecyn cefnogi ar-lein ar gael i'w lawrlwytho o wefan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sy'n cynnwys syniadau ar gyfer heriau a chynnwys posibl ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gall busnesau a sefydliadau hefyd ddangos eu cefnogaeth barhaus gan annog eu staff i gofrestru ar gyfer hyfforddiant, fel eu bod nhw'n gallu adnabod arwyddion cam-drin domestig a deall pa cymorth sydd ar gael.

Mae #Her33 yn cael ei chefnogi gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a Heddlu Gwent.

Meddai'r Prif Gwnstabl Pam Kelly “Mae unrhyw ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched yn annerbyniol ac rydyn ni, yn Heddlu Gwent, wedi ymroi i feithrin cymunedau mwy diogel trwy fynd i’r afael a’r broblem a sicrhau ein bod yn cael y canlyniad gorau i’n dioddefwyr.

“Mae gwneud y cysylltiad cyntaf yn gallu bod yn anodd ond gofynnaf yn daer ar unrhyw un sy’n credu eu bod yn dioddef y drosedd hon i ddweud wrthym ni, gan wybod y byddwn yn eu cefnogi nhw ac yn eu trin nhw gyda gofal a pharch. Mae dyletswydd ar bawb i sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw drais ac, wrth gwrs, drais yn erbyn menywod a merched.”

Meddai Amy Thomas, Prif Ymgynghorydd Rhanbarthol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Gwent: “Mae Diwrnod Rhuban Gwyn a'r 16 diwrnod o weithredu sy'n dilyn, yn galluogi pawb i wneud safiad yn erbyn trais yn erbyn menywod.

“Sbardunodd llofruddiaethau Sarah Everard a Sabia Nessa yn 2021 drafodaeth genedlaethol am ddiogelwch menywod a safodd y cyhoedd yn gadarn i gondemnio trais a chamdriniaeth yn erbyn menywod. Fodd bynnag, wrth i ni ddechrau adfer ar ôl pandemig Covid, rydym yn deall yn awr bod cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol nid yn unig wedi creu llen i guddio trais domestig ond hefyd wedi lleihau gallu dioddefwyr i chwilio am gymorth, felly mae amddiffyn menywod wedi dod yn fwy heriol nag erioed.

“Wrth godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhuban Gwyn trwy chwaraeon a digwyddiadau chwaraeon, rydym yn ceisio cael pawb i chwarae eu rhan yn dysgu am anghydraddoldeb a thrais rhwng y rhywiau ac ymroi i gymryd camau gweithredu i greu newid ynddyn nhw eu hunain ac yn eu cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorwyr Elaine Forehead a Philippa Leonard, Hyrwyddwyr Cam-drin Domestig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd, “Buasem ni'n annog pob trigolyn i gymryd rhan yn #Her33 i godi ymwybyddiaeth o nifer y menywod sy’n byw mewn sefyllfaoedd perygl uchel bob wythnos oherwydd cam-drin domestig neu drais rhywiol.”

Mae gan Gwent amrywiaeth o wasanaethau cymorth i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan gam-drin neu drais, yn ogystal ag unrhyw un sy'n poeni am eu hymddygiad eu hun neu eraill.

Mae llinell gymorth 24/7 Byw Heb Ofn am ddim ac mae ar gael i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gamdriniaeth. Mae'n cefnogi dioddefwyr, goroeswyr a'r bobl sy'n agos atynt, gallwch ffonio 0808 8010 800 neu anfonwch neges destun: 07860 077333.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. I roi gwybod am ddigwyddiad, ffoniwch 101 neu anfonwch neges at sianeli cyfryngau cymdeithasol @HeddluGwent.


Ymholiadau'r Cyfryngau