News Centre

Llwyddiant gweithdai gwneud llusernau cyn Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni, Caerffili

Postiwyd ar : 30 Tach 2022

Llwyddiant gweithdai gwneud llusernau cyn Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni, Caerffili
Mae dau weithdy gwneud llusernau hynod lwyddiannus wedi’u cynnal yng Nghaerffili ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni a fydd yn digwydd ynghyd ag arddangosfa tân gwyllt a Ffair y Gaeaf, Caerffili ar ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr.

Yn ystod y penwythnos cyntaf o wneud llusernau yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ar 19 Tachwedd a 20 Tachwedd, cafodd 348 o lusernau eu gwneud. Yn ystod yr ail benwythnos o wneud llusernau yn Llyfrgell Caerffili ar 26 Tachwedd a 27 Tachwedd, cafodd 573 o lusernau ychwanegol eu gwneud. Nododd y stiwardiaid mai dyma'r prysuraf iddyn nhw weld y gweithdai gwneud llusernau.

I gyd, cafodd 921 o lusernau eu gwneud, sy'n anhygoel, a 1045 o bobl wedi mynychu’r gweithdai.

Bydd yr orymdaith wych hon, wedi’i threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i hariannu gan Gyngor Tref Caerffili, yn dechrau ar Crescent Road (ochr y castell), ar yr ardal laswelltog gyferbyn â Chaeau Chwaraeon Owain Glyndŵr (CF83 1AB) am 6.30pm. Bydd yr orymdaith yn mynd trwy Barc Dafydd Williams o flaen y castell, gan orffen ym Maes Parcio'r Twyn ar gyfer y diweddglo o dân gwyllt am tua 7.15pm.

Os nad ydych chi wedi gwneud llusern, dewch draw i wylio'r orymdaith ysblennydd neu greu eich llusern eich hun gartref. Mae croeso i bawb, dyma fydd yr orymdaith lusernau ac arddangosfa tân gwyllt gyntaf i’r dref ers 2019.


Ymholiadau'r Cyfryngau