News Centre

Trosbont Shingrig Road, Nelson – gwaith atgyweirio hanfodol wedi’i ymestyn

Postiwyd ar : 23 Tach 2022

Trosbont Shingrig Road, Nelson – gwaith atgyweirio hanfodol wedi’i ymestyn

**Diweddariad gan Trafnidiaeth Cymru**

Yn dilyn archwiliad pellach gan Trafnidiaeth Cymru o drosbont Shingrig Road, mae traul ychwanegol i’r bont wedi’i darganfod a bydd angen rhaglen waith ychydig yn hirach na’r hyn a gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol.

O ganlyniad i hyn, ni fydd y rheolaeth traffig yn cael ei symud dros y penwythnos fel y cafodd ei nodi yn flaenorol, a bydd y llwybr troed a'r llwybr beicio hefyd yn parhau i fod ar gau.

Mae'r mesurau hyn yn eu lle i sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r rheilffordd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog aelodau’r cyhoedd i gydymffurfio â’r mesurau rheoli traffig hyd nes y cânt eu symud.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn deall y bydd y newyddion hyn yn siomedig, ond gallwn ni sicrhau ein bod ni’n gweithio mor galed ag y gallwn ni i gwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl, gyda’r nod cyfredol i ddod â’r gwaith i ben erbyn mis Chwefror, os nad yn gynt os oes mod di ni wneud hynny.

Mae tîm Trafnidiaeth Cymru ar gael i ateb eich ymholiadau 24/7, ffoniwch ni ar 033 33 211 202 neu e-bostio contact@tfw.wales.



Ymholiadau'r Cyfryngau