News Centre

Gwasanaethau Coffa 2022

Postiwyd ar : 09 Tach 2022

Gwasanaethau Coffa 2022

Wrth i Ddiwrnod y Cadoediad agosáu, mae'n amser i fyfyrio a chofio am y rhai rydyn ni wedi'u colli wrth iddyn nhw wasanaethu a dangos ein cefnogaeth i aelodau blaenorol o'r Lluoedd Arfog, y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd.

Ar 11 Tachwedd, sydd hefyd yn cael ei gydnabod yn Ddydd y Cofio, bydd dau funud o dawelwch ledled y wlad ar yr unfed awr ar ddeg ar yr unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg.

Eleni, mae Sul y Cofio yn disgyn ar 13 Tachwedd a bydd gwasanaethau i nodi'r achlysur yn digwydd ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dyma restr lawn o'r gwasanaethau a fydd yn digwydd ledled y Fwrdeistref Sirol yn 2022: -
 

Dyddiad

Lleoliad

Amser

Manylion

Dydd Iau 10 Tachwedd Canolfan Gymunedol Nazareth 2.00pm Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Gwener 11 Tachwedd Cofeb Ysgol Pont-y-waun, ar bwys Gorsaf Heddlu Rhisga 10.30am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Gwener 11 Tachwedd Gardd Goffa Deri 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Gwener 11 Tachwedd The Market Place, Coed Duon 10.30am Gwasanaeth yn unig, dim torchau
Dydd Gwener 11 Tachwedd Cofeb Gilfach, Commercial Street 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Gwener 11 Tachwedd Cofeb Fochriw 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd Gardd Goffa Princetown, Rhymni 11.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd Cofeb Ryfel Trecelyn, Sain Ffagan 9.30am Cwrdd yn y maes parcio, yna gorymdaith i'r senotaff ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd Eglwys Sant Iago, Rhydri 10.30am Gorymdaith o dafarn Old Griffin Inn i Eglwys Sant Iago ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sadwrn 12 Tachwedd Tŷ Pontllan-fraith 1.30pm Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Sgwâr Oakdale 10.45am Cwrdd ar gyfer yr orymdaith i'r senotaff
Cofeb Oakdale 11.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Senotaff, Pentwyn Road, Coed Duon 10.30am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Sant Thomas, Cefn Fforest 10.00am Gwasanaeth, wedyn gorymdaith i'r senotaff ar gyfer gosod torchau am 11am
Dydd Sul 13 Tachwedd Gardd Gymunedol Maes-y-cwmwr, The Crescent 12.30pm Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Sant Martin, Caerffili 2.45pm Gorymdaith i'r senotaff yn y Twyn ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau am 3pm
Dydd Sul 13 Tachwedd Maes parcio canolog, Llanbradach 10.30am Gorymdaith o'r maes parcio i'r gofeb ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau am 10.50am
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Abertyswg, Walter Street 10.30am Gwasanaeth yn Eglwys Sant Paul. Symud i'r gofeb ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Rhymni 10.00am Gwasanaeth, wedyn gorymdaith i'r senotaff ar gyfer gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Senotaff, St David's Road, Pengam 11.00am Gwasanaeth byr a gosod torchau, wedyn gwasanaeth yn Eglwys Dewi Sant
Dydd Sul 13 Tachwedd Gardd Goffa Glan-y-nant, New Road, Cwmfelin-fach 10.30am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Senotaff Wyllie, Glanhowy Road 11.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Catwg Sant, Gelligaer 10.50am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Tir-y-berth, Churchfield Close 10.40am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Sgwâr Parry, Trecelyn 9.30am Gorymdaith i Eglwys y Tabernacl ar gyfer gwasanaeth, wedyn gorymdaith i'r senotaff ar gyfer gosod torchau am 11.00am
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys y Bedyddwyr Zion, Caradoc Street, Cwmcarn 10.00am Gwasanaeth Coffa
Senotaff Cwmcarn 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Gymraeg, Abercarn 10.00am Gwasanaeth Coffa
Senotaff Abercarn 11.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Tyfaelog Sant, Pontlotyn 10.15am Gwasanaeth nad yw'n Ewcaristig, wedyn gorymdaith i Gofeb Pontlotyn ar gyfer gosod torchau am 11am
Dydd Sul 13 Tachwedd Gardd Goffa Aberbargod 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Rifleman Street, Rhisga 10.15am Gorymdaith i senotaff Rhisga
Senotaff Rhisga, St Mary Street 10.50am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys y Drindod Sanctaidd, Ystrad Mynach 9.30am Gwasanaeth, wedyn gorymdaith am 10.30am i'r senotaff yn Ysbyty Ystrad Fawr ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau am 10.55am
Dydd Sul 13 Tachwedd Maes parcio islaw Eglwys Santes Gwladys, Bargod 10.45am Cwrdd yn y maes parcio ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Markham, Pantycefn Road 10.30am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Neuadd Bentref Argoed 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Lleng Brydeinig Frenhinol, Machen 10.00am Gorymdaith i Eglwys Sant Ioan ar gyfer gwasanaeth am 10.45am, wedyn gorymdaith i'r senotaff ar Commercial Road
Senotaff Machen, Commercial Road 11.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Ysgol Iau Bedwas 10.45am Gorymdaith i'r senotaff ar Newport Road ar gyfer gwasanaeth a gosod torchau. 
Dydd Sul 13 Tachwedd Gardd Goffa Tretomos, Navigation Street 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Sant Ioan, Nelson 10.00am Gwasanaeth, wedyn gorymdaith i Senotaff Nelson ar gyfer gosod torchau am 11.00am
Dydd Sul 13 Tachwedd Capel yr Annibynwyr 10.20am Gwasanaeth, wedyn gorymdaith i'r senotaff
Senotaff Senghenydd, Sgwâr Senghenydd 11.00am Gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Brithdir 10.50am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Tirphil 10.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Senotaff Tredegar Newydd 10.45am Gwasanaeth a gosod torchau, wedyn gwasanaeth yn Eglwys Sant Dingat am 11.10am
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Troedrhiw'r-fuwch 11.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Eglwys Horeb, Trinant 11.00am Gwasanaeth wedyn gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Senotaff Crymlyn, Mining School Hill 11.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Senotaff Hafodyrynys, ar bwys y neuadd gymunedol 11.00am Gwasanaeth a gosod torchau
Dydd Sul 13 Tachwedd Cofeb Ryfel Hengoed a Chefn Hengoed, Ysgol Gynradd Derwendeg 10.40am Gwasanaeth a gosod torchau

 



Ymholiadau'r Cyfryngau