News Centre

Mae Siop Ail-ddefnyddio Penallta yn lansio apêl frys ar gyfer teuluoedd mewn angen y Nadolig Hwn

Postiwyd ar : 30 Tach 2022

Mae Siop Ail-ddefnyddio Penallta yn lansio apêl frys ar gyfer teuluoedd mewn angen y Nadolig Hwn

Mae Siop Ailddefnyddio Penallta a Wastesavers wedi lansio apêl frys, yn gofyn i drigolion roi teganau dieisiau ac wedi'u defnyddio, wrth agosáu at y Nadolig. 

Cafodd Siop Ail-ddefnyddio Penallta ei lansio mewn partneriaeth ag elusen wedi'i seilio yn Ne Cymru, Wastesavers yn gynharach eleni. Bwriad y siop yw dargyfeirio eitemau o Ganolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref a'u rhoi nhw yn nwylo'r rhai sydd yn eu hangen am fargen o bris.

Ar hyn o byd, mae gan Wastesavers ddeg Siop Ail-ddefnyddio ar waith ledled De Cymru a bydd yr apêl deganau yn cael ei chynnal ym mhob lleoliad.

Bydd teganau sy'n cael eu rhoi yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnig arbennig "llenwi bag am £1" y siop, a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn 3 a dydd Sadwrn 10 Rhagfyr. Bydd yr holl elw er budd elusennau lleol.

Meddai’r Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff: "Gyda theuluoedd ledled y fwrdeistref angen bod yn ofalus ble maen nhw'n gwario eu harian y gaeaf hwn. Bydd y cynnig "llenwi bag am £1" yn help mawr i nifer o bobl. Bydd y fenter hefyd yn atal teganau o ansawdd dda rhag cael eu gwaredu'n ddiangen eleni.

"Rydyn ni'n apelio at unrhyw un sy'n gallu, i roi os gwelwch yn dda. Gall hen degan mae eich plant wedi mynd yn rhy fawr iddo bellach wneud Nadolig gwych i blentyn arall."

Dywedodd Alun Harries, Rheolwr Elusen grŵp Wastesavers: "Mae ein siopau'n cael eu llenwi a theganau ar ôl Nadolig, felly eleni rydyn ni eisiau i bobl glirio allan yn gynnar fel bod cyfle i'r teganau hyn gyrraedd hosanau Nadolig.

"Ein gobaith yw bydd yr cynnig hwn yn helpu teuluoedd lleol sy'n teimlo pwysau'r argyfwng costau byw a helpu elusen fach leol ar yr un pryd".

Bydd "llenwi bag am £1" yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 3 a dydd Sadwrn 10 Rhagfyr. Mae gofyn i gwsmeriaid sydd eisiau siopa yn sêl ddod â bag am oes eich hun.  Bydd y sêl yn cynnwys llyfrau, DVDau a theganau plant.

Mae Wastesavers yn annog masnachwyr a gwerthwyr Ebay i beidio â chymryd mantais o'r sêl yma oherwydd y bwriad yw dod â hwyl yr ŵyl i blant lleol a allai golli allan.

I wneud rhodd neu i siopa yn y sêl, ewch i Siop Ail-ddefnyddio Penallta yn Ystâd Ddiwylliannol Penallta, South Road, Hengoed, CF82 7ST.   Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 9:30-4:30

I weld y cynigion diweddaraf dilynwch Siop Ail-ddefnyddio Penallta ar Facebook.


Ymholiadau'r Cyfryngau