News Centre

Cyngor yn atgoffa tenantiaid bod y ffordd y maen nhw'n rhentu yn newid

Postiwyd ar : 30 Tach 2022

Cyngor yn atgoffa tenantiaid bod y ffordd y maen nhw'n rhentu yn newid
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atgoffa tenantiaid y bydd y ffordd y maen nhw'n rhentu yn newid o 1 Rhagfyr 2022.
 
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.  Bydd yn gwella sut mae cartrefi’n cael eu rhentu a’u rheoli yng Nghymru.
 
O dan y gyfraith newydd, bydd tenantiaid yn dod yn ‘ddeiliaid contract’ a bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan ‘gontractau meddiannaeth’.  Nid oes angen i denantiaid y Cyngor wneud dim; bydd eu cytundeb tenantiaeth yn trosi’n awtomatig i'r contract newydd.  
 
Bydd y Cyngor yn dechrau anfon contractau meddiannaeth newydd yn gynnar yn 2023.  Gofynnwyd i denantiaid sicrhau bod eu manylion cyswllt yn gywir fel bod y Cyngor yn gallu anfon copïau o'u contract newydd atyn nhw.  Gallwch chi ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein yma.
 
I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru).  Gall tenantiaid sydd â chwestiynau, neu sydd angen cymorth, ffonio 01443 811434 / 33 / 32 neu e-bostio RhentuCartrefi@caerffili.gov.uk.
 

 


Ymholiadau'r Cyfryngau