News Centre

Rhodd contractwr yn helpu Caerffili i gysylltu

Postiwyd ar : 07 Tach 2022

Rhodd contractwr yn helpu Caerffili i gysylltu
Mae’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon wedi rhoi 10 gliniadur i gynorthwyo grwpiau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Ar hyn o bryd, mae'r contractwr yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i helpu cyflawni ei raglen adeiladu tai uchelgeisiol.

Mae’r grwpiau sydd wedi elwa o’r rhodd, hyd yn hyn, yn cynnwys Canolfan Glowyr Caerffili, lle mae’r gliniaduron yn cael eu defnyddio i gynorthwyo’r rhai sy’n defnyddio ei sesiynau caffi cymorth Wcráin pwrpasol.  Mae prosiect caffi We Connect, Rhisga, hefyd wedi derbyn gliniaduron i helpu trigolion lleol i gael mynediad at wasanaethau ar-lein.

Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Caerffili, menter gymdeithasol a gafodd ei sefydlu'n ddiweddar, yn defnyddio'r gliniadur i'w helpu i gadw cofnodion a rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy i helpu ateb y galw cynyddol yn y Fwrdeistref Sirol, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud drwy ein rhaglen adeiladu newydd er mwyn darparu buddion ehangach i'n cymunedau.

“Hoffwn i ddiolch i Willmott Dixon am y rhodd hael hon, a fydd yn helpu llawer o drigolion a allai fod wedi’u heithrio'n ddigidol yn flaenorol, yn ogystal â chynorthwyo twf mentrau cymdeithasol lleol.”

Dywedodd Ian Jones, Cyfarwyddwr yn Willmott Dixon, am y rhodd, “Yn ystod y gwaith o adeiladu'r prosiectau rydyn ni wedi'u cyflawni ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni wedi gweithio mewn nifer o ffyrdd i gynorthwyo'r gymuned leol ac ehangach lle gallwn ni.  Roedden ni wrth ein bodd o allu gwneud y cyfraniad hwn o liniaduron fel rhan o'n hymrwymiad gwerth cymdeithasol i helpu'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf.”


Ymholiadau'r Cyfryngau