News Centre

Cyngor Caerffili yn lansio apêl banc bwyd y Nadolig

Postiwyd ar : 08 Tach 2022

Cyngor Caerffili yn lansio apêl banc bwyd y Nadolig
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn apelio at drigolion, staff a busnesau lleol am roddion i gynorthwyo banciau bwyd lleol dros y Nadolig.
 
Mae banciau bwyd yn darparu bwyd a chymorth brys i deuluoedd ac unigolion mewn argyfwng ariannol. Maen nhw'n dibynnu’n fawr ar roddion, yn enwedig dros y Nadolig, ac maen nhw wedi gweld cynydd am alw eu cymorth yn ystod y pandemig ac o ganlyniad i’r argyfwng costau byw presennol.

Mae’r Cyngor yn casglu rhoddion ariannol fel rhan o apêl eleni er mwyn galluogi banciau bwyd i brynu’r cyflenwadau y mae gwir eu hangen arnyn nhw.

Gallwch chi roi rhoddion ar-lein trwy wefan y Cyngor.

Am ragor o wybodaeth am fanciau bwyd lleol, cysylltwch â thîm Gofalu am Gaerffili y Cyngor ar 01443 811490, e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk neu ymweld.


Ymholiadau'r Cyfryngau