News Centre

Cabinet Caerffili yn cytuno i ailwerthuso mesurau diogelwch ‘troadau Wyllie’

Postiwyd ar : 16 Tach 2022

Cabinet Caerffili yn cytuno i ailwerthuso mesurau diogelwch ‘troadau Wyllie’
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cytuno’n unfrydol i gynnal ailwerthusiad annibynnol o fesurau diogelwch ar hyd y B4251, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel ‘troadau Wyllie’.

Cafodd y penderfyniad hwn ei wneud yn ystod cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 16 Tachwedd, lle clywodd aelodau’r Cabinet safbwyntiau'r Cynghorwyr lleol a Mrs Jo Jones, mam Laurie Jones a fu farw mewn damwain ar y ffordd yn 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Mae’r rhan hon o’r briffordd wedi gweld nifer o ddamweiniau anffodus yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dwy ohonyn nhw'n angheuol, yn anffodus. Rydyn ni'n cydymdeimlo â’r teuluoedd hynny a gollodd anwyliaid ac rydyn ni'n diolch i Mrs Jones am ei dewrder wrth gwrdd â ni i leisio’i phryderon.

“Mae’r pryderon hyn wedi’u cymryd i ystyriaeth ac rydyn ni'n cydnabod bod y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith ers yr adroddiad diogelwch cychwynnol wedi newid nodweddion a chyflymder y ffordd, ac felly’n haeddu gwerthusiad annibynnol pellach.

“Rydyn ni'n cynnig ein sicrwydd y byddwn ni'n ymgynghori â'r holl bartïon perthnasol ynglŷn â chanfyddiadau’r ailwerthusiad.”


Ymholiadau'r Cyfryngau