News Centre

Ffair y Gaeaf gyntaf y Fwrdeistref Siroli yn 2022 yn llwyddiant mawr yn llawn hwyl yr ŵyl

Postiwyd ar : 25 Tach 2022

Ffair y Gaeaf gyntaf y Fwrdeistref Siroli yn 2022 yn llwyddiant mawr yn llawn hwyl yr ŵyl
Cafodd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o bedair Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, sy'n digwydd ledled y Fwrdeistref Sirol eleni, ei gynnal yng nghanol y dref, Ystrad Mynach, ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd. Roedd canol y dref wedi croesawi 9,000 o ymwelwyr, y nifer fwyaf o bobl sydd erioed wedi mynychu digwyddiad yn Ystrad Mynach, a'r diwrnod prysuraf o'r flwyddyn hyd yn hyn i'r dref.

Roedd digwyddiad y gaeaf wedi trawsnewid canol y dref gydag amrywiaeth eang o stondinau bwyd a chrefft, perfformiadau ar lwyfan, reidiau ffair i blant, Ogof Siôn Corn, ac adloniant. Roedd siopau a busnesau lleol wedi elwa’n fawr o’r cynnydd mewn presenoldeb pobl i’r dref gyda 7,700 yn fwy o ymwelwyr o gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol.

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol am y digwyddiad:

Meddai Louise Berry, o siop Andrew Berry Jewellery “Cawsom ni, yma yn Andrew Berry Jewellery, ddiwrnod gwych yn ystod Ffair y Gaeaf ddydd Sadwrn - roedd yn wych i weld y pentref mor llawn a prysur!

“Roedd nifer yr ymwelwyr yn dda gyda ni, nid mor dda â blynyddoedd blaenorol ond roedden ni'n hapus gyda faint roedden ni wedi’i werthu ar y diwrnod. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am eu cefnogaeth barhaus ac am drefnu digwyddiad mor hyfryd!”

Dywedodd Bessy Bella Boutique “Roedd e'n ddigwyddiad gwirioneddol wych; dyna oedd yr hwb roedden ni ei angen, a chawsom ni ddiwrnod da iawn.”

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd “Dyma nifer yr ymwelwyr uchaf erioed ar gofnod ar gyfer digwyddiad yn Ystrad Mynach! Mae'n dangos beth sy'n gallu cael ei gyflawni wrth weithio gyda'n gilydd i gynorthwyo canol ein trefi. Hoffwn i ddiolch i'r masnachwyr a'r trigolion am eu cefnogaeth wych.”

Rydyn ni'n cynnal tair Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf arall yn ystod adeg y Nadolig eleni:
 
  • Canol Tref Coed Duon – Dydd Sadwrn 26 Tachwedd
  • Canol Tref Caerffili – Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr
  • Canol Tref Bargod – Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr

Dewch draw i un neu bob un o'n Ffeiriau Gaeaf arall AM DDIM i brofi hwyl a chyffro'r Nadolig!


Ymholiadau'r Cyfryngau