News Centre

Ffair y Gaeaf Tref Coed Duon yw ail ddigwyddiad llwyddiannus tymor yr ŵyl i Fwrdeistref Caerffili

Postiwyd ar : 30 Tach 2022

Ffair y Gaeaf Tref Coed Duon yw ail ddigwyddiad llwyddiannus tymor yr ŵyl i Fwrdeistref Caerffili
Cafodd ail Ffair Fwyd a Chrefft y Gaeaf y tymor ei gynnal ym Mwrdeistref Caerffili ar ddydd Sadwrn 26 Tachwedd yng nghanol tref Coed Duon. Daeth nifer sylweddol, ychydig dros 9,000, o bobl i Goed Duon i ymuno â’r dathliadau a oedd yn digwydd, y nifer fwyaf o ymwelwyr i fynychu digwyddiad yn y dref ers 2018 a'r diwrnod prysuraf o'r flwyddyn hyd yn hyn i Goed Duon.

Roedd amrywiaeth o stondinau bwyd, diod a chrefft yn bresennol yn ogystal â Siôn Corn a'i sled, llawer o reidiau ffair a digon o adloniant gan gynnwys corau, ysgolion a grwpiau cymunedol lleol. Cafodd y digwyddiad effaith gadarnhaol iawn ar fusnesau lleol gyda 3,576 yn fwy o ymwelwyr o gymharu â’r dydd Sadwrn blaenorol.

Er gwaethaf y tywydd, daeth ymwelwyr yn llu i fwynhau popeth sydd gan ganol y dref i'w gynnig, gyda manwerthwyr lleol yn cael hwb mawr ei angen. Cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau’r holl weithgareddau ac atyniadau wedi’u trefnu ar gyfer y digwyddiad yn ogystal â chefnogi busnesau lleol.

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol a chynghorwyr am y digwyddiad:

Dywedodd Huw Edwards o Tidal’s Stores LTD “Roedd yn dda iawn, yn fy marn i. Mae’n feincnod ar gyfer y dref. Mae angen y digwyddiadau hyn gan eu bod nhw’n dod â phobl i’r dref, ac mae wedi dod yn un o brif elfennau calendr y Nadolig. Mae’n hyfryd gweld y stryd fawr yn brysur a dangos beth sydd gan Goed Duon i’w gynnig.”

Dywedodd John Hold, Clerc Tref Cyngor Tref Coed Duon, “O ystyried y tywydd ofnadwy, roedd y nifer o bobl yn y dref ar ddydd Sadwrn yn dangos bod awydd am ddigwyddiadau cymunedol yn y dref a’u bod nhw'n awyddus iawn i’w cefnogi. Llongyfarchiadau a diolch i dîm Digwyddiadau’r Cyngor am drefnu’r digwyddiad hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Cafodd canol tref Coed Duon y nifer fwyaf o ymwelwyr eleni a hefyd y nifer fwyaf o ymwelwyr ar gyfer Ffair y Gaeaf ers 2018! Hoffwn i ddiolch i’r masnachwyr, trigolion, staff digwyddiadau, a Chyngor Tref Coed Duon am eu hymdrechion. Mae'n dangos beth sy'n gallu cael ei gyflawni drwy weithio gyda'n gilydd."

Rydyn ni'n cynnal dwy Ffair Fwyd a Chrefft y Gaeaf arall yn ystod tymor y Nadolig eleni:
 
  • Canol Tref Caerffili – Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr
  • Canol Tref Bargod – Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr

Dewch draw i'n Ffeiriau Gaeaf arall AM DDIM i brofi hud y Nadolig!


Ymholiadau'r Cyfryngau