News Centre

​Gwahodd trigolion i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ynghylch terfyn cyflymder

Postiwyd ar : 31 Mai 2023

​Gwahodd trigolion i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad ynghylch terfyn cyflymder

Bydd terfynau cyflymder y rhan fwyaf o ffyrdd sy'n 30mya yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu gostwng i 20mya yn ddiweddarach eleni, fel rhan o ddeddfwriaeth newydd sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Nod y newid yw lleihau anafiadau ar y ffyrdd, cynnig amgylchedd mwy diogel i annog beicio neu gerdded, yn ogystal â lleihau llygredd sŵn.

Mae cynghorau ledled Cymru wedi cael cais i nodi ffyrdd penodol o fewn eu hardaloedd nhw a allai gadw'r terfyn cyflymder presennol o 30mya. Bydd y ffyrdd hyn wedyn yn eithriadau i gynllun 20mya Llywodraeth Cymru. Gweld y rhestr o Eithriadau 30mya.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu casglu adborth am y ffyrdd sy'n cael eu cynnig fel eithriadau. Mae ymgynghoriad ar-lein ar y gweill ar hyn o bryd, ac rydych chi'n cael eich gwahodd i roi eich barn ar y rhestr o Eithriadau 30mya ar ein gwefan ni.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, “Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn – mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae arafu traffig hefyd yn creu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar, gan roi'r hyder i bobl gerdded a beicio fwy. Bydd hynny’n helpu gwella ein hiechyd a'n lles, ac yn helpu gwella’r amgylchedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Briffyrdd, “Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r bwriad i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar strydoedd preswyl a strydoedd sy'n brysur o ran cerddwyr, yn ogystal â ffyrdd lle nad yw goleuadau stryd wedi'u gosod mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Wrth gwrs, rydyn ni’n croesawu’r egwyddor o leihau nifer y damweiniau ar y ffyrdd ac annog mwy o gerdded a beicio.

“Ond er mwyn sicrhau bod y newidiadau’n cael eu cyflwyno yn y modd mwyaf synhwyrol yn lleol, rydyn ni am glywed eich barn chi ar yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer y rhwydwaith ffyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor am dair wythnos, ac yn dod i ben ar 16 Mehefin 2023.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chynllun terfyn cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru, ewch i’r wefan: https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin
 



Ymholiadau'r Cyfryngau