News Centre

Gwaith ar fin dechrau yn Hafod-yr-Ynys Road

Postiwyd ar : 31 Mai 2023

Gwaith ar fin dechrau yn Hafod-yr-Ynys Road
Foto Hafod-yr-ynys Road

Ar ôl dymchwel yr eiddo ar hyd y ffordd A472, bydd ein contractwyr, Walters Group, yn dechrau gwaith sifil ar 31 Mai 2023.

Mae disgwyl i'r gwaith gymryd 24 wythnos.

Ein nod yw lleihau tarfu ar y traffig ac mae disgwyl y bydd llawer o'r gwaith yn cael ei wneud heb fod angen mesurau rheoli traffig. Pan fydd angen y rhain, byddan nhw ar waith rhwng 9.30am a 3pm.

Bydd lôn yn cael ei chau o dan reolaeth goleuadau traffig yn ystod yr wythnos sy’n dechrau’r 5 Mehefin, am 1 wythnos yn unig

Yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni'n gofyn i'r holl breswylwyr gyda phlant yn yr ardal i'w hatgoffa nhw o beryglon safleoedd adeiladu a sicrhau nad ydyn nhw'n ceisio cael mynediad i'r ardaloedd gwaith. Bydd mesurau diogelwch y tu allan i oriau ar waith, ond bydd eich help a'ch cymorth yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Dyma elfennau allweddol y gwaith hwn:-

  • Addasiadau i gael mynediad dros dro i ardal y gwaith
  • Adeiladu llethr wedi'i hatgyfnerthu
  • Tirlunio a ffensys
  • Adeiladu llwybr troed newydd ar hyd yr ardal newydd
  • Cael gwared ar y llwybr troed presennol 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gwaith, cysylltwch â Luke Holmes ar Lholmes@walters-group.co.uk neu 07741 265919.

Diolch am eich cymorth ac amynedd yn ystod y gwaith.

 



Ymholiadau'r Cyfryngau