News Centre

​Ffiliffest 2023

Postiwyd ar : 25 Mai 2023

​Ffiliffest 2023

Mae diwrnod llawn hwyl gyda mynediad am ddim wedi’i drefnu ar Gaeau Owain Glyndwr, Heol y Cilgant, Caerffili ar ddydd Sadwrn Mehefin 10fed.

Gŵyl flynyddol Menter Caerffili yw Ffiliffest i ddathlu iaith a diwylliant Cymru ac fe fydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau, adloniant, gweithgareddau, gweithdai, stondinau bwyd a diod a chyfle i brynu gan fusnesau lleol. Mae’r ŵyl yn nol unwaith eto ac fe fydd hi’n ddiwrnod llawn hwyl i’r gymuned gyfan!

Mae Menter Caerffili wedi gweithio yn agos gyda Cyngor B.S.Caerffili, Cyngor Tref Caerffili, grwpiau cymunedol a pherfformwyr i drefnu’r digwyddiad mewn lleoliad hollol unigryw.

Mae cannoedd o blant o ysgolion lleol yn paratoi ac yn ymarfer i ddawnsio gwerin ar y brif lwyfan sef arddangosfa dawnsio gwerin fwyaf y Sir. Mae’r ŵyl eleni yn parhau tan 19:00, gyda pherfformiadau gan fandiau a pherfformwyr Cymreig fel Martyn Geraint, Allan yn y Fan, Côr Meibion Caerffili, Morgan Elwy, Wonderbrass, Melda Lois, Paid Gofyn, Iestyn Gwyn Jones a Kizzi Crawford. Fe fydd stondinau nwyddau, amrywiaeth o fwyd a diod yn cynnwys bwyd llysieuol, cwrw a seidr, hefyd gweithgareddau a gweithdai addysgol amrywiol megis pabell celf a chrefft, ardal gemau fideo a chwaraeon.

Dywedodd Bethan Jones-Ollerton o Menter Caerffili ynglŷn â’r resymau dros gynnal yr ŵyl:“Yn Ffiliffest rydym ni’n croesawu bobl o bob oedran i ddod i fwynhau iaith a diwylliant Cymru mewn lleoliad ffantastig. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfleoedd i bobl i gysylltu â’r Gymraeg beth bynnag eu gallu. Dyn ni’n gyffrous iawn i weld Ffiliffest yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn.”

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’n prif noddwyr sef, Llywodraeth Cymru, Cyngor Tref Caerffili, Cyngor B.S.Caerffili, Cyngor Celfyddydau Cymru a Cronfa Gymunedol y Loteri Genedaethol.



Ymholiadau'r Cyfryngau