News Centre

Llwyddiant Tîm Cartrefi Gwag Caerffili mewn gwobrau cenedlaethol

Postiwyd ar : 26 Mai 2023

Llwyddiant Tîm Cartrefi Gwag Caerffili mewn gwobrau cenedlaethol
Mae dau aelod o Dîm Cartrefi Gwag Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Rhwydwaith Cartrefi Gwag cenedlaethol eleni.

Fe wnaeth Jamie Wagenaar gael y gwobr ‘Seren y Dyfodol’ i gydnabod ei ddull ymroddedig, ei agwedd gadarnhaol, a'i ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae ei waith yn ei wneud i gymunedau lleol.

Fe wnaeth Oliver Denton gael canmoliaeth uchel yn y categori ‘Ymarferydd Cartrefi Gwag y Flwyddyn’ am ei ymroddiad a'i ddycnwch i fwrw ymlaen â'r achosion mwyaf anodd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i'w datrys nhw.

Mae Jamie ac Oliver yn gweithio fel rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â chartrefi gwag sy'n eiddo preifat yn y Fwrdeistref Sirol. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu, mae'r tîm wedi llwyddo i sicrhau defnydd buddiol eto ar gyfer dros 100 o gartrefi gwag, sef y mwyaf hyd yma ar gyfer Cyngor Caerffili. Mae'r dull sy'n cael ei ddefnyddio gan y tîm hefyd wedi cael ei nodi fel arfer gorau gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ogystal â bod yn falltod yn ein cymunedau lleol, mae cartrefi gwag hefyd yn cynrychioli adnodd sy'n cael ei wastraffu, yn enwedig yn ystod yr argyfwng tai cenedlaethol presennol. Mae hwn yn gyflawniad gwych a hoffwn i longyfarch Jamie ac Oliver ar eu llwyddiant yn y gwobrau a diolch i bawb dan sylw am yr ymdrechion sylweddol wedi'u gwneud i fynd i'r afael â'r mater allweddol hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion cartrefi gwag ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ffonio'r tîm ar 01443 811378 neu e-bostio TaiSectorPreifat@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau