News Centre

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod wedi ennill Cystadleuaeth Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd yng Nghymru!

Postiwyd ar : 21 Mai 2021

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod wedi ennill Cystadleuaeth Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd yng Nghymru!
Mae Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod wedi ennill Cystadleuaeth Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd yng Nghymru.

'Gwastraff plastig' oedd thema'r gystadleuaeth, ac roedd yn rhaid i ddisgyblion creu prosiect ynghylch peryglon sbwriel plastig a strategaeth ar gyfer gwella'r sefyllfa. Yna, roedd angen fideo dim mwy na 3 munud i hyrwyddo eu gwaith a'u syniadau.

Rhwydwaith o blant rhyngwladol sy'n dysgu am ddatblygu cynaliadwy yw Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd, gyda nod o ennyn diddordeb pobl ifanc mewn datrys materion amgylcheddol.

Mae Gohebyddion Ifanc o 11 i 25 oed yn archwilio problemau a materion amgylcheddol ac yn cynnig atebion trwy adroddiadau ymchwiliol, newyddiaduraeth ffotograffig a fideo. Mae Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau ac ehangu eu gwybodaeth. Er enghraifft, yn ogystal ag ennill dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad cynaliadwy, mae'r rhaglen yn dysgu neu'n gwella sgiliau cyfathrebu a dinasyddiaeth, menter unigol, gwaith tîm, dadansoddi beirniadol, cyfrifoldeb cymdeithasol ac arweinyddiaeth.

Dyma beth ddywedodd yr e-bost a dderbyniodd yr ysgol: "Diolch am gyflwyno eich fideo i gystadleuaeth Gohebyddion Ifanc i'r Amgylchedd yng Nghymru eleni.

"Rydyn ni'n falch o gyhoeddi eich bod chi wedi ennill y Gystadleuaeth Fideo yn y categori 11 - 14 oed.

"Roedd y beirniaid yn credu bod eich fideo yn sefyll allan gan ei fod yn dathlu cyfranogiad yr ysgol gyfan, ac yn mynegi neges bwysig mewn modd clir a chreadigol."


Nawr, bydd y fideo yn cael ei gyflwyno ar gyfer Cystadleuaeth Gohebyddion Ifanc Rhyngwladol i'r Amgylchedd, yn cynrychioli Cymru yn erbyn ceisiadau gan bobl ifanc o bob cwr o'r byd. Bydd y gystadleuaeth hon yn cael ei beirniadu ym mis Mehefin 2021.

Meddai Ian Elliott MBE, Pennaeth Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod, "Rydw i wrth fy modd bod ein hysgol wedi ennill y gystadleuaeth ECO fawreddog hon. Os ydych chi'n cael y cyfle i weld y fideo, byddwch chi'n gweld brwdfrydedd ac ymrwymiad y disgyblion ar unwaith o ran lleihau swm gwastraff plastig. Mae ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o sut i warchod eu hamgylchedd fel ein bod ni'n ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 
 
"Diolch yn fawr i'r disgyblion a oedd yn rhan o'r fideo a Kate Thomas, Arweinydd Tîm ein hadran Cyfnod Cwricwlwm Ysgol, sy'n arwain y maes pwysig iawn hwn o'n gwaith. Pob lwc ar gyfer y rownd derfynol ryngwladol!"
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg a Chyflawniad, "Llongyfarchiadau i Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod am ennill y gystadleuaeth anhygoel hon. Mae'n wych gweld angerdd y disgyblion mewn perthynas â lleihau plastig a gwarchod ein hamgylchedd.
 
"Pob hwyl ar gyfer y Gystadleuaeth Ryngwladol, rwy'n aros yn eiddgar am y canlyniadau."
 
Mae modd gwylio'r fideo isod:
https://youtu.be/prasRMmUSkc


Ymholiadau'r Cyfryngau