News Centre

Dull partneriaeth i ddiogelwch cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 04 Mai 2021

Dull partneriaeth i ddiogelwch cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Mae trigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn cael eu sicrhau bod y problemau ynghylch diogelwch cymunedol yn cael sylw yn rhagweithiol trwy ddull partneriaeth.
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio'n agos â Heddlu Gwent i adolygu holl agweddau diogelwch cymunedol.  Mae sawl cyfarfod ffurfiol wedi'u trefnu, a fydd yn cynnwys ystyriaeth o effaith polisi goleuadau am ran o'r nos y Cyngor.
 
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, "Mae diogelwch ein cymunedau yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac rydyn ni'n gweithio gyda Heddlu Gwent i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau hyn.  Mae'r cyfarfodydd ffurfiol hyn yn dangos ein hymrwymiad i adolygu holl agweddau diogelwch cymunedol ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Rydyn ni'n deall bod pryderon ymhlith rhai aelodau'r cyhoedd ynghylch gweithredu goleuadau am ran o'r nos; hoffwn i eu sicrhau y bydd hyn yn cael ei adolygu mewn partneriaeth â Heddlu Gwent ac asesu a yw hyn wedi cael effaith ar lefelau trosedd.   Hefyd, byddwn ni'n ystyried hyn yn agos yn unol â'n hymrwymiadau cyfredol i gwrdd â'n targed arbedion carbon ac unrhyw fuddiannau cost rydyn ni'n eu cael o ganlyniad i hynny. Byddwn ni'n sicrhau na fydd unrhyw wasanaethau eraill i drigolion yn cael eu heffeithio o ganlyniad i unrhyw newidiadau i'n polisi goleuadau am ran o'r nos."


Ymholiadau'r Cyfryngau