News Centre

Unedau busnes newydd yn Nelson wedi'u cwblhau

Postiwyd ar : 27 Mai 2021

Unedau busnes newydd yn Nelson wedi'u cwblhau
L - R: Allan Dallimore (CCBC), Mark S Williams (CCBC), Matthew Savoury (Darnton B3), Jennifer Low (Welsh Government), Cllr Sean Morgan & Vishnu Varsani (Faithful & Gould) at Whitebeam Court
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bod cynllun adeiladu sylweddol wedi'i gwblhau sy'n dod ag eiddo busnesau newydd i safle Tŷ Du yn Nelson.

Mae cyllid sylweddol wedi'i sicrhau ar gyfer safle Tŷ Du, sydd yn union i'r de o ffordd osgoi Nelson, yr A472, gan y sector cyhoeddus a'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer datblygiad defnydd cymysg cynaliadwy, gan gynnwys priffyrdd a seilwaith mynediad newydd, darpariaeth ar gyfer 200 o gartrefi a 3.8 hectar o dir wedi'i ddynodi ar gyfer arwynebedd llawr o ansawdd ar gyfer adeiladau cyflogaeth.

Fel rhan o gam diweddaraf y cynllun, mae 4 adeilad cyflogaeth o safon uchel sy'n cynnwys cyfanswm o 1,300 metr sgwâr o arwynebedd llawr yng nghornel de-orllewinol y safle, wedi'u hadeiladu.

Bydd gan bob adeilad y potensial i gael ei isrannu'n 2-3 uned lai ac fe'u dyluniwyd â ffasâd allanol manyleb uchel gyda chynllun mewnol hyblyg sy'n addas i ystod o ddefnyddiau busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, "Mae cwblhau cam cyffrous nesaf datblygiad blaenllaw Tŷ Du yn cynnig gofod o safon uchel ar gyfer busnesau newydd i ddatblygu canolfan yn y Fwrdeistref Sirol neu i gwmnïau presennol dyfu; gan ddod â chyfleoedd swyddi i Nelson a'r ardal leol ar gyfer pobl leol. 

Mae cefnogi ein heconomi lleol yn bwysicach nag erioed ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y safle Tŷ Du yn helpu dangos bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lle gwych i wneud busnes."

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, "Rwy'n falch bod y prosiect pwysig hwn yn barod i ddenu busnesau i'r unedau y mae mawr alw amdanyn nhw, sydd wedi'u cysylltu'n dda ag isadeiledd lleol.

Rydyn ni am weld y rhanbarth yn manteisio ar ei botensial economaidd cyfoethog a bydd ein partneriaeth â'r Cyngor ar y safle allweddol hwn yn helpu i sicrhau newid parhaol i fusnesau a thrigolion. Dyma oedd un o amcanion Tasglu'r Cymoedd."

Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.


ERDF-logo-(1).jpg


Ymholiadau'r Cyfryngau