News Centre

Bargod Fwyaf yn dod yn Gymuned Dementia-gyfeillgar yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia

Postiwyd ar : 27 Mai 2021

Bargod Fwyaf yn dod yn Gymuned Dementia-gyfeillgar yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia
Mae ein Tîm Gofalu am Gaerffili wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau partner wedi'u cydlynu gan y Rhwydwaith Lles Integredig i gefnogi busnesau lleol a thrigolion i ddod yn 'Fargod Dementia-gyfeillgar'.
 
Mae'r wobr hon yn dod yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia, digwyddiad cenedlaethol gan Gymdeithas Alzheimer's sy'n dod â'r cyhoedd ynghyd i gymryd camau i wella bywydau pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia.

I ennill y statws hwn, roedd yn rhaid i Fargod Fwyaf bodloni sawl maes meini prawf, ac un ohonyn nhw oedd creu cynllun gweithredu lleol.  Mae'r cynllun yn cynnwys addysgu pobl leol ynghylch dementia a chodi ymwybyddiaeth o ran y bobl sy'n byw gyda'r afiechyd, gan hyfforddi nifer o gyfeillion Dementia a hyrwyddwyr Dementia ymhlith eraill.
 
Hefyd, fel rhan o'r wythnos hon mae holl Dîm Gofalu am Gaerffili yn ymgymryd â hyfforddiant fel rhan o'r Wythnos Gweithredu. Mae Gofalu am Gaerffili yn dîm o staff sefydledig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cynnig gwasanaeth brysbennu canolog newydd er mwyn cydlynu ac ymateb i drigolion sydd angen cymorth gyda materion fel tlodi bwyd, dyled neu ôl-ddyledion rent, unigedd neu unigrwydd.
 
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn annog trigolion i weithredu fel bydd modd i bobl gyda dementia cadw mewn cysylltiad gyda'r pethau maen nhw'n eu caru am gyfnod hwy.

Dywedodd cynrychiolwyr Rhwydwaith Lles Integredig Caerffili, “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o ddatblygu hyn yn Bargoed a hefyd yn ei ystyried yn rhan allweddol o gefnogi a chryfhau lles yn ehangach yn yr ardal.”
 
Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Hyrwyddwr Dementia Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Mae dementia yn rhywbeth sy'n bersonol iawn i mi a fy nheulu; felly, mae'n hyfryd gweld cymaint o drigolion lleol nid yn unig yn awyddus i ennill dealltwriaeth bellach o ddementia, ond hefyd i fod yn frwdfrydig wrth gynnig cymorth i bobl yn eu cymuned. Rwy'n hynod falch o Fargod gyfan am ddod yn gymuned dementia-gyfeillgar."
 
Os ydych chi'n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac yn wynebu problemau gydag un neu ragor o'r isod, hoffai tîm Gofalu am Gaerffili helpu.
  • Cymorth ariannol - cymorth dyledion, budd-daliadau a gwneud y mwyaf o'ch incwm
  • Mynd i'r afael â thlodi bwyd
  • Cefnogi unigolion i raglenni cymorth cyflogaeth
  • Mynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd
  • Cymorth ymarferol ar gyfer unigolion sydd angen help sy'n gysylltiedig â COVID-19 (fel y rhai sy'n derbyn cymorth gan y Cynllun Cyfeillio)
  • Ymyrraeth gynnar - er enghraifft cymorth iechyd meddwl a rhagnodi cymdeithasol 
 
Ffoniwch 01443 811490 neu e-bostio GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Mae'r tîm ar gael yn ystod oriau swyddfa - Llun-Gwener (9am-5pm).


Ymholiadau'r Cyfryngau