News Centre

Ysgol Gynradd Derwendeg yn dathlu pen-blwydd yn 100 oed.

Postiwyd ar : 20 Mai 2021

Ysgol Gynradd Derwendeg yn dathlu pen-blwydd yn 100 oed.
Yn ddiweddar, fe wnaeth ysgol Gynradd Derwendeg ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed . Fe wnaeth yr ysgol drefnu bod amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal ar gyfer staff a disgyblion i ddathlu'r pen-blwydd. 
 
Fe wnaeth y plant ddathlu gyda ‘diwrnod Wow’ gyda phob dosbarth yn gwisgo i fyny mewn ffasiwn o ddegawdau gwahanol.  Mae pob dosbarth wedi cael degawd i ganolbwyntio arno o ran eu dysgu, gan ymchwilio i’r cwestiwn - ‘Pa un oedd y degawd gorau i fynychu Ysgol Gynradd Derwendeg?’
 
Bydd y plant yn dathlu am y tymor Haf cyfan. Bydd dathliadau eraill yn cynnwys: 
 
  • Claddu capsiwl amser ar dir yr ysgol i ddangos sut roedd bywyd yn edrych yn 2021.  
  • Cystadleuaeth i'r disgyblion ddylunio logo 100 pen-blwydd arbennig; bydd y dyluniad buddugol yn cael sylw ar fwg coffa i'w roi i'r holl staff a disgyblion. 
  • Disgyblion sy'n gweithio gydag artist i gynhyrchu darn o waith celf coffa i'w osod y tu allan i'r ysgol. 
  • Dysgu am hanes yr ysgol a'u hatgofion arbennig. 
  • Bydd y disgyblion yn gweithio gyda chwmni cerdd i ysgrifennu a pherfformio cân ysgol arbennig yn crynhoi'r 100 mlynedd diwethaf.  
  • Disgyblion yn creu llyfr coffa a gwefan i ddogfennu hanes yr ysgol.  
  • Dathliad cymunedol pan fydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu.

Agorwyd Ysgol Gynradd Derwendeg yn swyddogol ddydd Llun 18 Ebrill, 1921 gan Mr Jonah Evans a Mrs Hannah Davies. Yn wreiddiol, costiodd £9,373 i'w hadeiladu ac roedd lle ar gyfer 250 o blant.  
 
Dywedodd Lynsey Wangiel, Pennaeth Ysgol Gynradd Derwendeg, “Mae Ysgol Gynradd Derwendeg yn ysgol arbennig iawn, nawr ac erioed, yng nghalon y gymuned. Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 100 oed eleni ac yn dysgu popeth am hanes cyfoethog yr ysgol.” 
 
Meddai'r Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Chyflawniad, “Mae'n hyfryd gweld bod disgyblion a staff wedi cael llawer o hwyl yn dysgu am hanes Ysgol Gynradd Derwendeg.  
 
“Gobeithio y gall disgyblion y dyfodol gael cymaint o hwyl yn agor y capsiwl amser sydd wedi'i gladdu ar dir yr ysgol. Pen-blwydd Hapus yn 100 oed Ysgol Gynradd Derwendeg."


Ymholiadau'r Cyfryngau