News Centre

Y Cyngor yn cyflwyno cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer dymchwel eiddo yn Hafodyrynys

Postiwyd ar : 06 Mai 2021

Y Cyngor yn cyflwyno cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer dymchwel eiddo yn Hafodyrynys
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw i ddymchwel 23 eiddo ar Fryn Hafodyrynys.
 
Yn fuan, bydd y Cyngor yn gosod y gwaith dymchwel ar gynnig, gyda disgwyl i waith dymchwel yr adeiladau ddechrau tua chanol i ddiwedd mis Gorffennaf, ond mae hyn yn dibynnu ar gael yr holl ganiatâd perthnasol. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gytuno ar fesurau lliniaru ecolegol ar gyfer yr ardal er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd lleol a'r cynefinoedd presennol yn cael eu gwarchod.
 
Mae'r cynlluniau yn cael eu datblygu i ddechrau dymchwel o gefn/ochr yr eiddo er mwyn lleihau'r angen i gau lonydd ar yr A472 cymaint â phosibl, a thrwy hynny leihau aflonyddwch.
 
Ym mis Gorffennaf 2020, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gynlluniau wedi'u cyflwyno gan y Cyngor i wella ansawdd aer yn Hafodyrynys, a oedd yn cynnwys dymchwel anheddau yn Woodside Terrace. Cytunwyd ar bryniant gorfodol yr eiddo hyn ar 150% gan Gabinet y Cyngor yn 2019.
 
Bydd y cynllun yn lleihau'r lefelau uchel o lygredd ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y trigolion sy'n weddill ar ochr ogleddol yr A472, y gymuned ehangach a'r rhai sy'n teithio trwy'r ardal.
 
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Bydd y cam nesaf hwn yn y broses yn ein galluogi ni i ddechrau gweithredu ein cynlluniau i helpu i wella ansawdd aer ar hyd y llwybr strategol allweddol hwn.
 
“Rydyn ni'n awyddus i sicrhau bod cyn lleied o aflonyddwch â phosibl ar gyfer trigolion a'r rhai sy'n teithio ar hyd y llwybr hwn, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd ein dull o ddymchwel o gefn/ochr yr eiddo yn lliniaru unrhyw effeithiau. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd ychydig o aflonyddwch ar adegau yn ystod y broses, a diolch i drigolion ymlaen llaw am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.”


Ymholiadau'r Cyfryngau