Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili yn cyflwyno system apwyntiadau ymlaen llaw ar gyfer pori'r silffoedd mewn llyfrgelloedd mewn hybiau a threfi.
Postiwyd ar : 13 Mai 2021
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, o ddydd Llun 17 Mai ymlaen, yn croesawu trigolion sydd eisiau pori'r silffoedd a dewis eu llyfrau eu hunain yn ôl i'n llyfrgelloedd mewn hybiau a threfi.
Gall trigolion nawr gysylltu'n uniongyrchol ag un o'r llyfrgelloedd canlynol i drefnu apwyntiad pori ymlaen llaw:
- Bargod
- Coed Duon
- Caerffili
- Trecelyn
- Rhymni
- Rhisga
- Ystrad Mynach
Yr hyn rydyn ni'n ei ddisgwyl gennych chi
Bydd eich profiad yn y llyfrgell yn wahanol i'r arfer, a bydd ein llyfrgelloedd yn cyfyngu ar y cwsmeriaid ym mhob safle. Mae eich diogelwch yn bwysig i ni o hyd, felly:
- Peidiwch ag ymweld â'r llyfrgell os ydych chi'n sâl neu'n dangos symptomau coronafeirws.
- Gwisgwch orchudd wyneb neu amddiffynnydd wyneb plastig yn y llyfrgell.
- Cofiwch gadw pellter cymdeithasol a dilyn y canllawiau iechyd a diogelwch sydd ar waith.
- Peidiwch ag amharchu'r staff – maen nhw yno i'ch helpu chi.
- Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio dwylo yn y llyfrgell. Cofiwch ddiheintio eich dwylo wrth gyrraedd y llyfrgell, ac wrth adael.
- Mae Cyngor Caerffili yn rhan o wasanaeth Olrhain, Profi a Diogelu y Gwasanaeth Iechyd, felly, wrth gyrraedd y llyfrgell, cofiwch sganio cod QR y Gwasanaeth Iechyd neu lenwi Ffurflen Gyswllt.
- Bydd angen i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad.
Sut mae trefnu apwyntiad pori ymlaen llaw?
Bydd ein llyfrgelloedd yn cynnig hyn a hyn o apwyntiadau 20 munud o hyd bob dydd. I drefnu apwyntiad, mae modd anfon e-bost neu ffonio'r llyfrgell yn uniongyrchol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen pori llyfrgelloedd
Wrth drefnu apwyntiad, bydd rhaid i chi ateb rhai cwestiynau er mwyn sicrhau bod eich cofnod aelodaeth yn gyfoes.
Yn y llyfrgell
Dewch â'ch cerdyn aelodaeth llyfrgell gyda chi bob tro oherwydd byddwch chi'n cael eich annog i ddefnyddio'r system hunan-wasanaeth.
Dim ond o bellter diogel o 2 fetr y bydd staff yn gallu darparu hyn a hyn o gymorth.
Mae'r apwyntiadau wedi'u cyfyngu i 20 munud o hyd er mwyn sicrhau tegwch i'n cwsmeriaid.
Bydd angen i bob plentyn dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn neu warcheidwad.
Defnyddiwch un o'n bagiau cotwm i gario'r llyfrau rydych chi eu heisiau ac, ar ôl gorffen, rhowch y bag yn y Blwch Cwarantin a ddarperir.
Os ydych wedi trin eitem am fwy na 10 munud, rhowch yr eitem honno mewn Blwch Cwarantin - mae llawer o'r blychau hyn wedi'u lleoli o amgylch adeiladau'r llyfrgelloedd.
Gwasanaethau sydd ddim ar gael ar hyn o bryd:
Seddi cyfforddus a lle astudio
Toiledau cyhoeddus - ar gael i gwsmeriaid ag apwyntiadau.
Ar hyn o bryd, mae ystafelloedd cyfarfod a seminarau ar gau.
Adnoddau fel taflenni lliwio i blant.