News Centre

Cabinet yn cymeradwyo prosiectau i'w cyflwyno ar gyfer cyllid newydd Llywodraeth y DU ar gyfer economïau lleol a rhanbarthol

Postiwyd ar : 20 Mai 2021

Cabinet yn cymeradwyo prosiectau i'w cyflwyno ar gyfer cyllid newydd Llywodraeth y DU ar gyfer economïau lleol a rhanbarthol
Mae Cabinet Cyngor Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau i gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau cyffrous ledled y Fwrdeistref Sirol fel rhan o raglenni cyllido a chyllid newydd ar gyfer economïau lleol a rhanbarthol.
 
Mae'r Cabinet wedi penderfynu ar brosiectau sy'n gallu cael eu cynnig i'r llywodraeth ganolog fel rhan o'r Gronfa Codi’r Gwastad a gafodd ei chyhoeddi fel rhan o gyllideb y Canghellor ym mis Mawrth. Mae'r Gronfa Codi’r Gwastad yn gronfa gystadleuol y gall ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig gyflwyno ceisiadau ar ei chyfer. Gall pob etholaeth gyflwyno cais o hyd at £20 miliwn, felly mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gymwys i gyflwyno tri chais, a bydd un ohonynt yn gais ar y cyd â Merthyr Tudful. Yn ogystal, gall yr Awdurdod gyflwyno cais am drafnidiaeth ar wahân o hyd at £50 miliwn.
 
Mae Caerffili yng ngrŵp blaenoriaeth uchaf y Gronfa Codi’r Gwastad a bydd Llywodraeth y DU yn buddsoddi £4.8 biliwn mewn isadeiledd sy'n gwella bywyd pob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth; bydd £800 miliwn ohono ar gael i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
 
Llywodraeth y DU sy'n darparu'r arian a bydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae rhestr o brosiectau'r Cyngor, a allai fod yn gymwys ond mae angen ei fireinio ymhellach o ran dichonoldeb a chyflenwi ymarferol, wedi mynd drwy broses gwirio sydd wedi cael ei chynnal gan uwch swyddogion o'r isadrannau Adfywio ac Isadeiledd gyda'r Fframwaith Llunio Lleoedd mewn golwg.
 
Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys:
  • Etholaeth Caerffili - Darparu isadeiledd ym Mharc Busnes Caerffili ar gyfer unedau diwydiannol/cyflogaeth newydd wedi'u hanelu at fusnesau bach a chanolig, gwelliannau i gylchfan Pont Bedwas ynghyd â chynlluniau teithio llesol cyflenwol a darparu ffordd fynediad ar safle tir llwyd Ness Tar.
  • Etholaeth Islwyn - Atyniad i ymwelwyr Cwmcarn, gwelliannau i gangen Cwmcarn Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog ac ailddatblygu safle canol tref strategol yn Rhisga.
  • Etholaeth Merthyr Tudful/ Rhymni - gwelliannau i ffordd liniaru'r A469 i sefydlogi llwybr y ffordd brifwythiennol i Gwm Rhymni Uchaf a Blaenau'r Cymoedd.
  • Cais ar wahân ar gyfer trafnidiaeth (hyd at £50 miliwn) - Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili - mynd â'r prosiect ymlaen o'r cam dichonoldeb a dylunio hyd at ei gwblhau'n ymarferol. 
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu Cronfa Adfywio Cymunedol y DU gyda chyllideb gwerth £220 miliwn ar gyfer 2021/22 yn unig, fel rhagflaenydd i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a fydd yn cael ei lansio y flwyddyn ganlynol. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi 100 o Leoedd â Blaenoriaeth yn seiliedig ar wytnwch economaidd a fydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllid. Er nad yw Caerffili wedi'i restru yn y 100 o Leoedd Blaenoriaeth, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfrifoldeb i gefnogi sefydliadau cymwys eraill gyda'r Fwrdeistref Sirol i gyflwyno eu cynigion eu hunain i'w hystyried. I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa, ewch i yma.
 
Meddai'r Cynghorydd Sean Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi, Menter, ac Isadeiledd, "Os byddan nhw’n llwyddiannus, bydd y ceisiadau hyn yn gwella cyfleoedd busnes, yn darparu gwell cyfleusterau hamdden, yn uwchraddio isadeiledd ac yn helpu i'n heconomi leol dyfu. Byddwn ni'n gweithio mor galed â phosibl i ddatblygu'r ceisiadau gorau y gallwn ni ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili."
 
Meddai wedyn, “Mae'r Gronfa Codi’r Gwastad a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin dilynol ar gyfer mynd i'r afael ag anfantais gymdeithasol ac economaidd yn yr un modd â'u cronfeydd Ewropeaidd blaenorol, felly mae angen i'r Cyngor sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r Awdurdod yn cael eu paratoi ac yn cymryd rhan, gan gynnwys partneriaid a'r gymuned.”


Ymholiadau'r Cyfryngau