News Centre

Ysgol Gyfun Rhisga i gynnal Taith Gŵn ar gyfer Awtistiaeth 4

Postiwyd ar : 17 Maw 2023

Ysgol Gyfun Rhisga i gynnal Taith Gŵn ar gyfer Awtistiaeth 4

Bydd Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga yn cynnal eu pedwaredd taith gerdded flynyddol i godi arian ddydd Sul 26 Mawrth yng Nghoedwig Cwmcarn.

Mae ‘Taith Gŵn ar gyfer Awtistiaeth’ yn daith gerdded 2 filltir o hyd yng Nghoedwig Cwmcarn i ddathlu, codi ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer y prosiect ‘Ci’, yng ngardd  Canolfan Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig, Ysgol Gyfun Rhisga, ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, sef 27 Mawrth tan 2 Ebrill 2023.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn am 10.45am o faes parcio Coedwig Cwmcarn, a dylai gymryd tua 45 munud. Ar ôl y daith gerdded, gall pawb sy'n cymryd rhan fwynhau paned a byrbryd yng Nghaffi'r Gigfran.

Mae'r Ganolfan Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig yn helpu pobl ifanc rhwng 11 a 16 oed mewn lleoliad prif ffrwd, lle maen nhw'n cael eu cynorthwyo gan weithiwr allweddol i fynychu gwersi prif ffrwd a hefyd dreulio amser yn y ganolfan er mwyn canolbwyntio ar sgiliau allweddol.

Mae'r ganolfan hefyd yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a sgiliau bywyd hanfodol i'w paratoi nhw ar gyfer bywyd y tu allan i'r ysgol.

Mae'r arian a gafodd ei godi y llynedd wedi helpu datblygu sgiliau annibynnol yn ein gardd ni. Gan weithio ochr yn ochr â disgyblion yn ein hadran Anghenion Dysgu Ychwanegol, rydyn ni'n anelu at greu lleoliad a fydd yn meithrin annibyniaeth a sgiliau trefnu sylfaenol wrth i'r myfyrwyr ddysgu'r sgiliau ac arferion hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw yn eu dyfodol. Mae'r sgiliau ymarferol hyn yn hanfodol o ran sicrhau bod y myfyrwyr yn teimlo'n hyderus ac yn datblygu hunan-barch.

Mae'r arian hefyd wedi helpu darparu offer ac adnoddau ar gyfer rhandir a gardd synhwyraidd y ganolfan. Y nod yw dysgu sut i fyw'n annibynnol, a gweithio gydag eraill ac ochr yn ochr ag eraill.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn 2023 yn helpu'r ysgol i barhau'r gwaith ar y prosiect ‘Ci’; mae hwn yn brosiect lle mae ein Canolfan Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig yn gweithio gyda'n hadran Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ardd. Eleni, mae ein pwmpenni – a gafodd eu plannu a'u cynaeafu gennym ni – wedi rhoi profiadau dysgu gwych. Yn ddiweddar, gwnaethom ni jam pwmpen.

Dywedodd John Kendall, pennaeth yr ysgol: “Roeddwn i wrth fy modd i weld y digwyddiad hwn ar galendr yr ysgol eto ar ôl seibiant o ddwy flynedd oherwydd Covid. Daeth nifer da iawn o bobl a, heb os nac oni bai, bydd yn boblogaidd iawn eleni hefyd. Er fy mod i'n ymddeol ym mis Awst, rwy'n gobeithio dychwelyd i gymryd rhan yn y Daith Gŵn ar gyfer Awtistiaeth flynyddol gyda fy nghŵn am sawl blwyddyn i ddod! Diolch yn fawr i’r trefnwyr, ac i bawb sy'n cymryd rhan!”

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch taffyterrier@gmail.com

I roi arian, ewch yma https://bit.ly/40eIquD

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael yng Nghoedwig Cwmcarn, ewch i www.cwmcarnforest.co.uk/cy



Ymholiadau'r Cyfryngau