News Centre

Kinetic Pixel: Busnes lleol yn cael cymorth gyda chyllid gan Gronfa Fenter Caerffili a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i uwchraddio meddalwedd

Postiwyd ar : 29 Maw 2023

Kinetic Pixel: Busnes lleol yn cael cymorth gyda chyllid gan Gronfa Fenter Caerffili a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i uwchraddio meddalwedd

Mae Kinetic Pixel yn fusnes yng Nghaerffili sy’n dylunio ac yn adeiladu systemau technoleg adloniant sy’n pweru graffeg stiwdio ryngweithiol, yn sbarduno’r goleuadau a’r synau, yn rheoli’r sgorau a’r cynnwys, ac yn galluogi rhyngweithio amser real ar gyfer cynulleidfaoedd rhithwir a byw, cystadleuwyr, a chyflwynwyr ledled y byd.

Mae rhai sioeau y maen nhw wedi gweithio arnyn nhw'n cynnwys "Ant & Dec's Saturday Night Takeaway", "The Wheel", "Who Wants to Be a Millionaire", "The Masked Singer". Hefyd, maen nhw'n darparu'r graffeg ar gyfer rhai o'r sioeau hyn pan maen nhw'n cael eu gwerthu i'w darlledu dramor.

Mae tîm Kinetic Pixel wedi siarad â Sally Harvey ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, ar ôl cael cymorth grant yn flaenorol. Ond y tro hwn, cysyllton nhw â Sally o’r Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu i drafod yr angen am gymorth i brynu trwyddedau meddalwedd ychwanegol i ganiatáu ar gyfer twf y tîm datblygu meddalwedd a graffeg. Bydd hyn yn caniatáu i Kinetic Pixel fod yn fwy cystadleuol ac ennill cytundebau ledled y byd yn ogystal â'r Deyrnas Unedig.

Roedd Cronfa Fenter Caerffili a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gallu cynnig cymorth grant gwerth £2,938 i Kinetic Pixel. Caniataodd y cymorth hwn i'r cwmni wneud cais am y contractau hanfodol hyn i greu rhagor o refeniw a sicrwydd swyddi yn ein hinsawdd bresennol.

Mae Kinetic Pixel yn ehangu, ar hyn o bryd, drwy recriwtio graddedigion a gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant. Ar gyfer pob person sy'n cael ei gyflogi, mae angen adnoddau ychwanegol sylweddol megis trwyddedau meddalwedd, gliniaduron ac offer ychwanegol.

Dywedodd Craig Hann, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Kinetic Pixel, “Mae Cronfa Fenter Caerffili wedi ein galluogi ni i brynu offer allweddol mewn modd amserol ac wedi cynorthwyo gyda'n twf parhaus ni. Roedd yn hawdd cael mynediad at y gronfa, ac roedd y gwaith papur yn syml gyda help gan Sally a’r tîm busnes.”

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, "Rydyn ni'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cynorthwyo Kinetic Pixel gyda chyllid i helpu eu busnes i dyfu. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio'n gadarnhaol gyda nhw yn y dyfodol."

Am ragor o wybodaeth am y cymorth busnes sydd ar gael, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Tîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7WF.

E-bost: Busnes@caerffili.gov.uk | Ffôn: 01443 866220



Ymholiadau'r Cyfryngau