News Centre

Cwmni Caws Caerffili: Busnes Caerffili yn dod â chynhyrchiad Caws Caerffili yn ôl

Postiwyd ar : 21 Maw 2023

Cwmni Caws Caerffili: Busnes Caerffili yn dod â chynhyrchiad Caws Caerffili yn ôl

Mae perchnogion Cwmni Caws Caerffili, Huw Rowlands a Deian Thomas, yn dod â chynhyrchiad Caws Caerffili yn ôl i ganol tref Caerffili.

Mae Huw a Deian wedi gweithio'n galed dros y 3 blynedd diwethaf yn dod o hyd i gynhwysion lleol, gan berffeithio eu ryseitiau a phrosesau i gyrraedd man lle gallan nhw ddechrau cynhyrchu a gwerthu Caws Caerffili. 

Maen nhw'n awyddus i ddechrau cyflenwi busnesau lleol â'u cynnyrch dilys ac maen nhw eisiau sicrhau bod hanes Caerffili yn bodoli yn y caws i gyd.

Dydy Caws Caerffili ddim wedi cael ei gynhyrchu yng Nghaerffili am dros 30 mlynedd. Bydd y busnes hwn yn bendant yn cynyddu ymdeimlad o le'r bobl leol, yn ogystal â chynorthwyo gydag ymgysylltu â'r diwylliant lleol gan fod caws Caerffili yn rhan bwysig o hanes a threftadaeth y Fwrdeistref Sirol.

Gwnaeth y perchnogion sicrhau eiddo gwag yng nghanol tref Caerffili er mwyn cynhyrchu'r caws. Roedd angen llawer o waith ar yr eiddo er mwyn gallu ei ddefnyddio, yn ogystal ag offer i ddechrau'r cynhyrchiad. Cysylltodd Huw a Deian â Sally Harvey a Lauren James, Swyddogion Cymorth Buddsoddi o dîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i ofyn a oedd unrhyw gymorth grant i'w helpu nhw gyda sefydlu eu busnes.

Cafodd Cwmni Caws Caerffili £16,502.50 mewn cymorth grant gan Grant Datblygu Busnes Cronfa Menter Caerffili i helpu gyda gwaith hanfodol a oedd angen yn yr eiddo a phrynu'r offer a fydd yn eu helpu nhw i ddechrau eu cynhyrchiad.

Wedyn, cafodd y busnes £3,959.87 pellach trwy'r Grant Dechrau Busnes i helpu gydag offer Technoleg Gwybodaeth, costau hysbysebu ac arwyddion.

Cafodd Cwmni Caws Caerffili gyfanswm o £20,462.37 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y cyllid hwn i Cwmni Caws Caerffili o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Yn ddiweddar, mae'r busnes lleol hefyd wedi ennill pecyn o gymorth busnes wedi'i deilwra gwerth £1,000 gan Menter a Busnes, sef cwmni nid-er-elw sy’n cynorthwyo busnesau yng Nghymru. Roedd Rowlands wedi syfrdanu beirniaid cystadleuaeth Cywain Menter a Busnes gyda’r syniad dyfeisgar o ddod â chynhyrchiad y caws byd-enwog yn ôl i Fwrdeistref Sirol Caerffili.

Meddai Deian Thomas a Huw Rowlands, perchnogion Cwmni Caws Caerffili, "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth mae Cyngor Caerffili wedi’i roi i ni, a fyddwn ni ddim wedi gallu cyrraedd y man hwn heb ei gymorth. Mae Sally a Lauren wedi bod yn gymorth gwych o ran ein helpu ni i symud ein busnes ymlaen."

Y chwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, "Roedd yn wych i gwrdd â Deian i drafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni wrth ein bodd cynorthwyo Cwmni Caws Caerffili gyda chyllid grant gwerth £20,462.37 i'w helpu nhw i gyflawni eu breuddwydion o ddod â chynhyrchu caws yn ôl i Gaerffili. Mae Cwmni Caws Caerffili yn ychwanegiad gwych i'r dref ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd."

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:

Thîm Menter Fusnes ac Adnewyddu, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7WF.

E-bost: Busnes@caerffili.gov.uk

Rhif ffôn: 01443 866220



Ymholiadau'r Cyfryngau