News Centre

Cabinet i ystyried hwb ariannol i'r A469

Postiwyd ar : 30 Maw 2023

Cabinet i ystyried hwb ariannol i'r A469
Mae'r ffordd yn Nhroedrhiw'r-fuwch

Mae bron i £1 miliwn ar fin bod ar gael i symud ymlaen â gwelliannau hir-ddisgwyliedig i'r briffordd ar yr A469 rhwng Pontlotyn a Thredegar Newydd.

Mae'r ffordd yn Nhroedrhiw'r-fuwch wedi'i heffeithio gan symudiad tir sylweddol yn dilyn tirlithriad cychwynnol yn ôl yn 2014. Ers 2020, mae cyfyngiadau traffig un lôn wedi bod yn eu lle, gan achosi aflonyddwch ac anghyfleustra i'r gymuned leol.

Mae'r Cyngor wedi gwneud llawer o waith rhagarweiniol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae angen rhagor o ymchwilio a gwaith dylunio nawr. Bydd hyn yn arwain at ddyluniad terfynol a dewis contractwr i wneud y gwaith angenrheidiol i ailagor y ffordd yn llawn.

Yr wythnos nesaf (Mercher 5 Ebrill), bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried cytuno ar gyllid o £935,000 i symud ymlaen â dyluniad manwl ac amcangyfrifon cyllideb ar gyfer y gwaith. Bydd hyn yn caniatáu i gamau monitro a dylunio cychwynnol y prosiect symud ymlaen yn gyflym dros y misoedd nesaf wrth i'r Cyngor aros am gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am y cyllid.

Mae’r Cyngor wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror yn nodi y bydd cyllid ar gael ar gyfer cynllun gwella er, ar hyn o bryd, nad yw manylion y cyllid yn hysbys eto.

Dwedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Mae ein cynnig i fuddsoddi £935 mil yn y cynllun yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddatrys y mater hirsefydlog hwn sy’n cael effaith andwyol ar gynifer o bobl yn y gymuned gyfagos.

“Rydyn ni nawr yn ceisio eglurder brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael i’n galluogi ni i symud y prosiect hwn, sydd mawr ei angen, yn ei flaen.

Os bydd y cais am gyllid yn aflwyddiannus, bydd y Cabinet yn ceisio ariannu’r gwelliannau angenrheidiol i’r llwybr strategol allweddol hwn drwy ffynonellau cyllid eraill.  

Unwaith y bydd cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y cynllun llawn, mae disgwyl y bydd y gwaith gwella yn dechrau yn 2024.

Mae problemau gyda symudiad tir yn parhau i achosi problemau i gyfanrwydd wyneb y ffordd, ond rydyn ni'n dymuno sicrhau trigolion a modurwyr nad oes risg ar fin digwydd i ddefnyddwyr y briffordd. Yn anffodus, bydd y goleuadau traffig yn aros yn eu lle am beth amser eto a bydd y safle yn destun monitro rheolaidd a pharhaus i sicrhau bod y ffordd yn aros yn ddiogel.

Bydd y cyntaf mewn cyfres o gylchlythyrau rheolaidd yn rhoi manylion y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn a'n camau nesaf arfaethedig ni'n cael eu dosbarthu i drigolion a busnesau lleol yr wythnos nesaf. Bydd diweddariadau rheolaidd pellach yn dilyn wrth i'r cynlluniau fynd rhagddyn nhw.
 



Ymholiadau'r Cyfryngau