News Centre

Dechrau cyfri'r diwrnodau tan Pride Caerffili

Postiwyd ar : 16 Maw 2023

Dechrau cyfri'r diwrnodau tan Pride Caerffili
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi dechrau cyfri'r diwrnodau tan y digwyddiad Pride Caerffili cyntaf.

Does dim ond 100 o ddiwrnodau tan Pride Caerffili, dathliad diwrnod cyfan yn digwydd rhwng 12pm a 7pm ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023.

Dyma'r digwyddiad cyntaf o'i fath i ddigwydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili a gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i'r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu'r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. 
Ar y diwrnod, bydd cerddoriaeth fyw ac adloniant gan gynnwys y frenhines drag arobryn Miss Tina Sparkle, yn ogystal â gweithgareddau gan ysgolion cyfun a gwasanaethau ieuenctid lleol. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys Gorymdaith Balchder eiconig.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili, am 12pm, gan anelu lawr drwy'r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio'r Twyn lle bydd yn gorffen. 

Dywedodd y Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Chymunedau a Hyrwyddwr LHDTC+: “Rydyn ni'n llawn cyffro o agosáu at ddyddiad ein digwyddiad Pride Caerffili cyntaf. Mae'r diwrnod yn siŵr o fod yn ddathliad llawn hwyl ein cymuned LHDTC+ ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”


Ymholiadau'r Cyfryngau